Veteran Referrals

Nid ydym yn gallu ymateb i alwadau argyfwng ac rydym yn argymell bod unigolion mewn argyfwng yn gofyn am gymorth gan eu meddyg teulu, y Gwasanaeth y Tu Allan i Oriau neu’n mynychu eu Huned Damweiniau ac Achosion Brys lleol lle mae seiciatrydd ar alwad. Fel arall, mae y C.A.L.L. yn llinell gymorth iechyd meddwl 24/7/365 i Gymru ac mae'n cynnig gwasanaeth gwrando a chymorth cyfrinachol. Ffoniwch 0800 132 737 neu tecstiwch help i 81066.

Os ydych chi'n gyn-filwr sydd eisiau atgyfeirio eich hun at Cyn-filwyr GIG Cymru, dewiswch y botwm isod;

Os ydych chi'n gwneud atgyfeiriad ar ran cyn-filwr, dewiswch y botwm ffurflen Atgyfeirio ar Ran;

Am arweiniad ar gwblhau'r ffurflen atgyfeirio, gweler isod.  

Beth y gallwch ei ddisgwyl

Ar ôl i'r ffurflen atgyfeirio ar-lein gael ei derbyn yn yr Hyb yng Nghaerdydd neu gopi papur o'r Ffurflen Atgyfeirio (gael ei derbyn gan y BILl perthnasol). Cysylltir â'r cyn-filwr trwy alwad ffôn cyn gynted â phosibl yn y lle cyntaf (os yn bosibl), e-bost, neu lythyr i drefnu amser addas ar gyfer cyfweliad asesu gyda'r Therapydd Cyn-filwyr lleol.

Bydd yr asesiad yn digwydd mewn lleoliad addas ger cartref y cyn-filwyr lle bo hynny'n bosibl, neu drwy alwad fideo neu ffôn.

Yn ystod yr asesiad, a all bara hyd at 90 munud, gofynnir i'r cyn-filwr ddisgrifio eu problemau/symptomau presennol a'u heffeithiau ar weithgareddau o ddydd i ddydd. Gellir rhannu'r asesiad yn gyfarfodydd byrrach os oes angen.

Bydd gwybodaeth hefyd yn cael ei chasglu ynghylch ei gefndir ef/hi, ei wasanaeth milwrol ac unrhyw anawsterau blaenorol.

Bydd angen caniatâd i gael mynediad at Wasanaeth Milwrol a Chofnodion Meddygol i ddilysu gwasanaeth milwrol a chael mynediad at Cyn-filwyr GIG Cymru.

Yn dilyn yr asesiad cychwynnol, bydd cynllun rheoli y cytunwyd arno yn cael ei ddatblygu a bydd y cyn-filwr yn darparu gwybodaeth berthnasol ar sut y gellir eu cynorthwyo a/neu eu trin. Bydd y cynllun rheoli hwn hefyd yn cael ei anfon at feddyg teulu’r unigolyn. Os bydd angen, cysylltir â gwasanaethau arbenigol eraill y GIG ar ran y cyn-filwr i ddarparu pecyn triniaeth ar sail tystiolaeth.

DS: Mae angen rhif gwasanaeth y cyn-filwr arnom. Rhowch wybod i'r cyn-filwr y bydd hwn yn cael ei ddefnyddio i ddilysu eu gwasanaeth yn y Lluoedd Arfog.

Nodiadau Canllaw ar lenwi'r ffurflen atgyfeirio:

Referral Advice to Organisations such as Social Services, Veterans UK, RBL, CAB and SSAFA

1.    Dylid annog cyn-filwyr neu gyn-filwyr wrth gefn sydd ag anawsterau iechyd meddwl ysgafn i fynd i weld eu meddyg teulu am asesiad a rheolaeth briodol.

2.    Dylid atgyfeirio cyn-filwyr a chyn-filwyr wrth gefn sydd ag anghenion iechyd meddwl sy'n gysylltiedig â gwasanaeth milwrol y credir eu bod angen gofal mwy penodol at Cyn-filwyr GIG Cymru drwy'r ffurflen atgyfeirio ar-lein uchod.

3.    Dylid atgyfeirio cyn-filwyr neu gyn-filwyr wrth gefn sydd angen asesiad brys neu mewn argyfwng (e.e. yn cyflwyno risg sylweddol iddyn nhw eu hunain neu i eraill) at eu meddyg teulu, gwasanaeth argyfwng iechyd meddwl lleol neu Uned Achosion Brys leol.

4.    Dylid annog cyn-filwyr neu gyn-filwyr wrth gefn sydd ag anawsterau neu gyflyrau iechyd meddwl nad ydynt yn gysylltiedig â gwasanaeth milwrol sydd angen mewnbwn gan wasanaethau iechyd meddwl arbenigol eraill (e.e. dementia, seicosis, dibyniaeth ar sylweddau) i fynd i weld eu meddyg teulu am asesiad a rheolaeth briodol.

5.    Rydym yn hapus i gynnig ymgynghoriad a chyngor ynghylch cyn-filwyr sy'n mynd at, neu a allai fod yn cael trafferth yn mynd at wasanaethau eraill y GIG.

6.    Gellir atgyfeirio cyn-filwyr at dîm bwrdd iechyd Cyn-filwyr GIG Cymru yn seiliedig ar fwrdd iechyd eu meddygfeydd. Mae cyn-filwyr sy'n byw ar ochr Lloegr i'r ffin sydd wedi cofrestru gyda meddyg teulu mewn bwrdd iechyd yng Nghymru yn gymwys i gael eu hatgyfeirio.

Crynodeb

Mae unrhyw gyn-filwr yng Nghymru sy'n cyflwyno anghenion iechyd meddwl sy'n gysylltiedig â gwasanaeth milwrol yn gymwys i gael ei asesu ar sail nad yw'n frys gan Cyn-filwyr GIG Cymru gyda chydsyniad. Bydd y rhai sydd ag anghenion iechyd meddwl 'nad ydynt yn gysylltiedig â gwasanaeth milwrol' neu anghenion cymorth corfforol neu gyffredinol sy'n gysylltiedig â gwasanaeth milwrol yn cael eu hatgyfeirio at wasanaethau priodol eraill.

Mae cyn-filwyr yn cael eu diffinio fel unrhyw un sydd wedi gwasanaethu am o leiaf un diwrnod yn Lluoedd Arfog y DU (Rheolaidd neu wrth Gefn).

Mae Cyn-filwyr GIG Cymru yn wasanaeth iechyd meddwl gofal sylfaenol i gyn-filwyr sy'n cyflwyno problem iechyd meddwl sy'n gysylltiedig â gwasanaeth milwrol fel iselder, gorbryder, PTSD, neu faterion sy'n gysylltiedig â thrawma ac sy'n barod ac yn gallu cymryd rhan mewn therapi seicolegol cleifion allanol.

Dylid atgyfeirio cyn-filwyr sy’n bodloni meini prawf ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl gofal eilaidd at y gwasanaethau o fewn eu Bwrdd Iechyd Prifysgol sydd wedi'u dynodi i ddarparu gofal a thriniaeth o dan Ran Dau neu Ran Tri o'r Mesur Iechyd Meddwl. Felly, dylid cyfeirio cyn-filwyr sy'n cyflwyno anghenion mwy cymhleth a pharhaus ac sydd angen gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol i gydlynu pecyn gofal gan asiantaethau amlbroffesiynol ac sy'n annhebygol o ymateb i therapi seicolegol byr at wasanaethau iechyd meddwl eilaidd lleol..

Mae anghenion cymhleth yn cael eu diffinio fel a ganlyn:

•    Angen asesiad brys oherwydd materion risg uniongyrchol i chi eich hun neu i eraill
•    Iselder difrifol
•    Salwch Meddwl difrifol, parhaus fel seicosis, sgitsoffrenia, anhwylder deubegynol
•    Anhwylder personoliaeth
•    Dibyniaeth ar alcohol/cyffuriau
•    Salwch meddwl difrifol a pharhaus fel seicosis, sgitsoffrenia neu anhwylder deubegynol
•    Dementia ac anhwylder niwrolegol yr ymennydd
•    Anhwylder personoliaeth
•    Dibyniaeth ar gyffuriau/alcohol: ni fydd cyn-filwyr yn cael eu heithrio yn seiliedig ar gamddefnyddio sylweddau yn unig. Os yw cyn-filwr yn cyflwyno problemau camddefnyddio sylweddau sylweddol, dylent gael cymorth gan wasanaeth camddefnyddio sylweddau priodol ar yr un pryd.
•    Bodloni'r meini prawf ar gyfer cynlluniau gofal a thriniaeth o fewn gofal eilaidd neu drydyddol

 Gall y bwrdd iechyd lleol perthnasol fynd at Therapyddion Cyn-filwyr i drafod achosion, cael cyngor neu ynghylch priodoldeb atgyfeiriad at Cyn-filwyr GIG Cymru cyn atgyfeirio. Gall y Therapydd Cyn-filwyr gynorthwyo gyda rhwydweithio Cyn-filwyr sydd ag anghenion cymhleth i wasanaethau priodol eraill

Os ydych yn dymuno gwneud atgyfeiriad at Cyn-filwyr GIG Cymru, dewiswch o un o'r opsiynau uchod i lenwi'r ffurflen ar-lein. Dylai cyn-filwyr a gweithwyr proffesiynol sy'n dymuno hunanatgyfeirio drwy gopi papur e-bostio  admin.vnhswc&Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. i gofyn am gopi papur.