Ym Mhowys mae gwasanaeth Cyn-filwyr GIG Cymru yn cael ei ddarparu gan ein Byrddau Iechyd cyfagos (gweler y map isod):

BIP Betsi Cadwaladr  i'r rhai sy'n byw yn Sir Drefaldwyn

BIP Aneurin Bevan ar gyfer y rhai sy'n byw ym Mrycheiniog neu Sir Faesyfed

Bae Abertawe i'r rhai sy'n byw yn Ystradgynlais.

Am fwy o wybodaeth am y gwasanaeth, click on the appropriate health board link cliciwch ar y ddolen ar gyfer y bwrdd iechyd priodol neu cysylltwch ag Amy O'Sullivan, Ysgrifennydd Hyb Cyn-filwyr GIG Cymru ar 029 2183 2261, neu e-bostiwch admin.vnhswc&Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld..

Mae taflen gwasanaeth Cyn-filwyr GIG Cymru ar gyfer Powys ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Mae posteri hefyd ar gael:

Aneurin Bevan (Aberhonddu a Sir Faesyfed)  / Aneurin Bevan (Brecon and Radnorshire)

Betsi Cadwaladr (Sir Drefaldwyn) /  Betsi Cadwaladr (Montgomeryshire)

Bae Abertawe (Ystradgynlais) / Swansea Bay (Ystradgynlais)

 

 Veterans Powys Outpatient Clinics Map2

 

Darpariaeth gwasanaeth gyda'r nos ac ar benwythnosau ym Mhowys:

Mae gwasanaethau Iechyd Meddwl ym Mhowys yn cael eu darparu gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys (PIAP). Mae'r trefniadau y tu allan i oriau yn cynnwys rota seiciatrydd ar alwad a rota rheolwr iechyd meddwl ar alwad.
Ym mis Ebrill 2023 bydd gwasanaeth cymorth dros y ffôn newydd gan GIG 111 pwyswch 2 yn cael ei weithredu.

Sut ydw i'n cysylltu â'r gwasanaethau iechyd meddwl i gael cyngor clinigol arbenigol rhwng 5pm a 9am (y tu allan i oriau) neu ddydd Sadwrn a dydd Sul?

Gall y Seiciatrydd Ymgynghorol ar alwad ym Mhowys roi cyngor clinigol a chynnal Asesiadau’r Ddeddf Iechyd Meddwl y tu allan i oriau. Gellir cysylltu â nhw drwy switsfwrdd BIAP gan ddefnyddio'r rhif ffôn canlynol: 01874 622443.

Sut ydw i'n cysylltu â'r gwasanaethau iechyd meddwl i gael cyngor rheoli (darparu gwasanaeth) rhwng 5pm a 9am (y tu allan i oriau) neu ddydd Sadwrn a dydd Sul?

Gall y Rheolwr Iechyd Meddwl ar alwad roi cyngor rheoli sy'n ymwneud â gwasanaethau iechyd meddwl BIAP dros y ffôn a gellir cysylltu â nhw drwy switsfwrdd BIAP gan ddefnyddio'r rhif ffôn canlynol: 01874 622443.

Beth os ydw i'n credu bod rhywun angen cael ei dderbyn i’r ysbyty?

Os ydych chi'n credu bod unigolyn angen cael ei dderbyn i’r ysbyty (ac yn barod i fynd yn wirfoddol) [ar gyfer unigolion nad ydynt yn barod i fynd yn wirfoddol gweler uchod] yna mae angen cysylltu â'r tîm argyfwng.

Mae gennym ddau Dîm Argyfwng ym Mhowys, un wedi'i leoli yn Y Drenewydd (Gogledd Powys) ac un wedi'i leoli ym Mronllys (De Powys).

Yr oriau gweithredu ar gyfer y ddau dîm yw 9am – 9pm a gellir cysylltu â'r timau ar:

Tîm Argyfwng y De: 01874 712 658

Tîm Argyfwng y Gogledd: 01686 617 747

Dylid cyfeirio galwadau ar ôl oriau gweithredu argyfwng i Ward Felindre, Ysbyty Bronllys sydd ar gael 24/7 er mwyn brysbennu ceisiadau o'r fath.

Ward Felindre, Ysbyty Bronllys: 01874 712 478

Cofiwch, gallwch alw’r Llinell Gymorth sy’n gweithredu 24/7. Dyma'r Llinell Cyngor a Gwrando Cymunedol sy'n cynnig gwasanaeth gwrando a chymorth cyfrinachol. Gellir ei chyrchu trwy'r wefan: www.callhelpline.co.uk/. Telephone 0800-132-737, neu tecstiwch help 81066.