Mae pob bwrdd iechyd yn croesawu adborth.
Os hoffech chi fynegi pryder am y gofal neu'r driniaeth rydych chi wedi'i derbyn yna mae gwybodaeth am sut i wneud hyn ar gael yn y daflen 'Gweithio i Wella'.
Mae gan bob bwrdd iechyd eu tîm pryderon eu hunain. I ddod o hyd i'w manylion gallwch ffonio Galw Iechyd Cymru ar 0845 4647 neu ewch i'r gwefannau isod. Os oes angen cymorth arnoch i fynegi pryder, mae manylion cyswllt gwasanaethau sy'n darparu cefnogaeth i fynegi pryder hefyd ar gael ar bob gwefan.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro