Gwobrau Arwyr Nyrsio 2020

Victoria Williams Award

Mae Victoria Williams, Therapydd Arweiniol Cyn-filwyr gyda thîm Bae Abertawe, wedi derbyn Gwobr Arwr Nyrsio. Mae'r Gwobrau'n dathlu 100 mlynedd o nyrsio yn yr uned Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a rhoddir y gwobrau drwy gydol y flwyddyn i gydnabod cyfraniadau rhagorol ym maes nyrsio.

Cafodd Victoria, sydd â chefndir fel nyrs iechyd meddwl, ei henwebu gan Donna Sharp, Rheolwr Gwasanaethau Oedolion Castell-nedd a Phort Talbot (ar y chwith yn y llun gyda Victoria). Yn ei henwebiad, disgrifiodd Donna Victoria fel 'ysbrydoliaeth' a nododd angerdd Victoria dros weithio gyda Chyn-filwyr, yn ogystal â'i hymrwymiad i wella darpariaeth therapïau trwy ymchwil, rhannu ei harbenigedd â therapyddion eraill a datblygu ei hymarfer therapiwtig ei hun yn barhaus.

 


Kevin Hackett Award

Gwobrau Cyn-filwyr Cymru 2019

Ym mis Mehefin 2019, dyfarnwyd gwobr Efydd i Kevin Hackett, Mentor Cyfoedion Change Step i dîm BIP Betsi Cadwaladr Cyn-filwyr GIG Cymru, am ei waith yn y gymuned. Cyflwynwyd ei dystysgrif iddo gan Sean Molino a drefnodd y gwobrau (yn y llun isod). Fel mentor cyfoedion, mae Kevin yn gweithio gyda chyn-filwyr o'r pwynt atgyfeirio i nodi unrhyw anghenion iechyd a gofal cymdeithasol. Yna mae Kevin yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth uniongyrchol i gyn-filwyr fel y gellir mynd i'r afael â'r anghenion hyn cyn gynted â phosibl, yn aml cyn i'w therapi ddechrau. Yn ogystal â gweithio gyda Chyn-filwyr GIG Cymru, mae gan Kevin hefyd nifer o rolau allweddol yng nghymuned y Lluoedd Arfog lle mae'n cyfrannu ei brofiad, ei arbenigedd a'i ymrwymiad i wasanaethau cyn-filwyr. Gallwch ddarganfod mwy am waith Kevin yn y gymuned trwy ddarllen proffil gwobrau Kevin


Gwobrau'r Lluoedd Arfog yng Nghymru 2018

Ym mis Tachwedd 2018, enwebwyd Dr Neil Kitchiner, Cyfarwyddwr ac Arweinydd Clinigol Ymgynghorol Cyn-filwyr GIG Cymru gan Dr Fiona Jenkins, Cyfarwyddwr Therapïau, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro am Wobr Cyfamod y Lluoedd Arfog. Mae'r digwyddiad blynyddol hwn yn cydnabod Cynllun Cydnabod Cyflogwyr a Gwobrau'r Lluoedd Arfog yng Nghymru. Roedd Neil ar y rhestr fer ynghyd â Mrs Rachel Gill, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy fel Swyddog Prosiect Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog 2018; Dr Peter Higson OBE, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Lleol BIPBC a Chadeirydd Fforwm y Lluoedd Arfog; Mr Jason Palmer, Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Conwy ac mae wedi creu systemau ar gyfer dosbarthu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i gyn-filwyr ar draws Gogledd Cymru. Dewiswyd Neil fel yr enillydd ar y noson. Gwyliwch gyflwyniad fideo Neil yn cael ei greu a'i chwarae cyn y cyhoeddiad terfynol yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, Caerdydd, Cymru.

 

Priority Service