VeteranWales NHS aims

Prif nod Cyn-filwyr GIG Cymru yw gwella iechyd meddwl a lles cyn-filwyr sydd â phroblem iechyd meddwl sy'n gysylltiedig â gwasanaeth milwrol.

Y nod eilaidd yw cyflawni hyn drwy ddatblygu gwasanaethau cynaliadwy, hygyrch ac effeithiol sy'n diwallu anghenion cyn-filwyr ag anawsterau iechyd meddwl a lles sy'n byw yng Nghymru.

Prif ganlyniadau'r gwasanaeth fydd:


A. Mae cyn-filwyr sy'n profi anawsterau iechyd meddwl a lles sy'n gysylltiedig â'u gwasanaeth milwrol yn gallu cyrchu a defnyddio gwasanaethau sy'n darparu ar gyfer eu hanghenion
B. Rhoddir asesiad cynhwysfawr i gyn-filwyr yn y gwasanaeth hwn sy'n asesu eu hanghenion seicolegol a chymdeithasol yn gywir
C. Mae cyn-filwyr yn cael eu cyfeirio at wasanaethau priodol ar gyfer unrhyw anghenion corfforol sy'n cael eu canfod
D. Gall cyn-filwyr ac eraill sy'n ymwneud â'u gofal ddatblygu cynllun rheoli priodol sy'n ystyried eu teulu a'u hamgylchedd
E. Mae teuluoedd cyn-filwyr yn cael eu cyfeirio at wasanaethau priodol os oes angen
F. Bydd y gwasanaeth hwn yn datblygu rhwydweithiau lleol a chenedlaethol o wasanaethau ac asiantaethau sy'n ymwneud â gofalu am gyn-filwyr i hyrwyddo gweithio amlasiantaethol i wella canlyniadau i gyn-filwyr a'u teuluoedd
G. Bydd y gwasanaeth yn cysylltu â'r fyddin i hwyluso adnabod ac ymyrryd yn gynnar
H. Bydd y gwasanaeth yn hyrwyddo model adfer fel y gall cyn-filwyr wneud y mwyaf o'u lles corfforol, meddyliol a chymdeithasol yn unol â pholisi Gofal Iechyd Darbodus Llywodraeth Cymru
I. Darparu ymyriadau seicogymdeithasol byr (tua 16-20 o sesiynau cleifion allanol)
J. Darparu cyngor a chymorth arbenigol i wasanaethau lleol ar asesu a thrin cyn-filwyr sy'n profi anawsterau iechyd meddwl i sicrhau bod gwasanaethau lleol, gan gynnwys gwasanaethau dibyniaeth, yn gallu diwallu anghenion cyn-filwyr
K. Codi ymwybyddiaeth o anghenion cyn-filwyr a diwylliant milwrol i sicrhau triniaeth a chefnogaeth well ar draws gwasanaethau
L. Nodi rhwystrau i gyn-filwyr gael mynediad at wasanaethau priodol a cheisio amlygu a mynd i'r afael â'r rhain fel y bo'n briodol
M. Casglu data ar batrymau atgyfeirio, canlyniadau arferol ac atgyfeirio ymlaen