Videos

Fideos Gofalwyr

Mae'r fideos byr ar wefan Cyn-filwyr GIG Cymru yn ganlyniad menter i wella cefnogaeth i ofalwyr cyn-filwyr yn ein gwasanaeth. Rydym wedi bod yn ymwybodol yn sgil blynyddoedd lawer yn gweithio gyda chyn-filwyr a'u teuluoedd bod bod yn ofalwr i gyn-filwr yn cyflwyno heriau ac anghenion cymorth unigryw a phwysigrwydd cydnabod a diwallu'r anghenion hyn.

Roedd y broses yn cynnwys nifer o gamau: trafodaeth o fewn tîm Cyn-filwyr GIG Cymru am ein darpariaeth bresennol; ymgynghori â gofalwyr eu hunain a sgyrsiau gyda sefydliadau cyn-filwyr sy'n cefnogi gofalwyr fel mater o drefn.

Fe wnaethon ni neilltuo peth amser i feddwl am yr hyn rydyn ni'n ei ddarparu ar hyn o bryd ac o hyn dyfeisiwyd arolwg a anfonwyd at ofalwyr a oedd wedi dod i gysylltiad â'n gwasanaeth yn hanesyddol ac mewn cysylltiad ar hyn o bryd. Roeddem yn awyddus i ddeall yr anghenion penodol sy’n dod wrth ofalu am gyn-filwr a’r hyn y mae gofalwyr eu hunain yn ei nodi fyddai’n helpu gyda'r rhain. Rhoddodd hyn ddata cyfoethog i ni yr oeddem yn gallu nodi meysydd allweddol o gefnogaeth ohono - roedd angen cymorth ar ofalwyr i ofalu am eu lles eu hunain; roedden nhw eisiau mwy o wybodaeth am anhwylderau penodol fel PTSD a sut mae'n cael ei drin ac yn olaf, y ffordd orau o gefnogi eu cyn-filwr tra’i fod ef/hi yn cael triniaeth.

Fe wnaeth trafodaethau gyda sefydliadau cyn-filwr fel Woody's Lodge ein helpu i gydgrynhoi ein meddyliau am y wybodaeth yr oedd gofalwyr ei heisiau a hefyd archwilio'r ffordd orau o ddarparu'r wybodaeth hon. Cytunwyd mai fideos byr y gellid eu cyrchu'n hawdd trwy ein gwefan fyddai'r ffordd fwyaf effeithiol o wneud hyn. Rydym yn croesawu unrhyw adborth af y ffordd y gallwn wella'r dudalen hon a'r fideos.

Gofalwch ar ôl eich hun

Iechyd Meddwl Cyn-filwyr

Beth i'w ddisgwyl, sut galla i helpu?