Os ydych chi'n darllen hwn, rydych chi'n edrych ar Cyn-filwyr GIG Cymru. Felly o un cyn-filwr i'r llall "defnyddiwch y gwasanaeth yma achos maen nhw yma i'ch helpu chi". Maen nhw wedi fy helpu i ddod yn ôl o le tywyll. Nid yw'n daith hawdd ond maen nhw wedi fy helpu gyda'r offer sydd eu hangen arnaf i fyw bywyd gyda llai o straen. Amhrisiadwy.
Ar ôl cwblhau fy 22 mlynedd o wasanaeth roeddwn wedi profi llawer o drawma ac amgylcheddau anodd a gafodd effaith ddofn arnaf i a fy nheulu flynyddoedd lawer ar ôl gadael y lluoedd. Yn y diwedd, es i at fy meddyg teulu ac fe wnaethant fy rhoi mewn cysylltiad â Chyn-filwyr GIG Cymru ar ôl asesiad cychwynnol dechreuais fy therapi o fewn cyfnod byr. Mae lefel y gefnogaeth a'r therapi rwyf wedi'i dderbyn wedi bod yn rhagorol.
Mae'r therapi ei hun yn anodd iawn ac yn heriol ac ar brydiau roeddwn i eisiau cerdded allan, ond rhoddodd fy therapydd y sgiliau, y technegau a'r wybodaeth i mi i ddelio â’r PTSD, y gorbryder, yr iselder, y dicter a’r diffyg hunan-barch.
Yn araf fe wnaeth fy hyder a'm hunan-barch ddatblygu wrth i'r therapi barhau, nawr mae gen i well golwg ar fywyd gyda chynlluniau a nodau tymor byr a hirdymor. Byddaf bob amser yn edmygu ac yn ddiolchgar tu hwnt am y gwaith y maen nhw wedi'i wneud ac yn parhau i'w wneud wrth iddyn nhw achub bywydau a gwneud bywydau pobl yn well.
Hoffwn rannu fy stori gydag aelodau o'r Lluoedd Arfog a chyn-filwyr. Bydd darllen y dysteb hon yn rhoi syniad i chi o ddioddefaint nad oeddwn yn ymwybodol ohono. Nid wyf am fanylu ar fy amser yn y Fyddin Brydeinig gan y gallwn dreulio drwy'r dydd a chymryd y dudalen gyfan.
Ar y dechrau, doeddwn i ddim yn gweld symptomau PTSD. Mae'r gair yn unig yn gwneud i chi feddwl 'Na, dim fi'. Dros y blynyddoedd ar ôl gadael y fyddin, es i â rhai atgofion drwg gyda fi a'u cadw i fewn gan mai dyma'r peth i'w wneud. Roeddech yn cael eich dysgu fel milwr i droi eich hun i ffwrdd a bwrw ymlaen â phethau. Yn araf bach, dechreuodd yr atgofion hyn ddod yn ôl i fy mhen pan fydden nhw’n cael eu sbarduno gan rywbeth. Pan oeddwn yn gwasanaethu, profais hediad gwael mewn hofrennydd a ddaeth i mewn fel cwymplaniad. Roedden ni'n meddwl ein bod ni'n mynd i farw. Nid oedd y ffordd wnes i ddelio â'r atgof hwnnw flynyddoedd wedyn a'r hyn roeddwn i'n ei wneud yn gwneud synnwyr nes i fy therapydd egluro fy ymddygiad.
Bob tro yr oeddwn yn clywed hofrennydd, byddwn yn codi ni waeth ble roeddwn i, ac yn edrych amdano a’i wylio yn mynd heibio. Roeddwn i'n gwneud hyn ym mhobman, yn y gwaith, gartref, allan gyda ffrindiau, byddwn i'n codi a cherdded allan o'r ystafell heb egluro i bobl beth roeddwn i'n ei wneud. Nid oeddwn yn gallu rheoli’r awydd. Roeddwn i'n teimlo bod yn rhaid i fi godi fel pe bai fy mywyd yn dibynnu arno. Doeddwn i ddim yn teimlo'n gyfforddus nes fy mod wedi gweld yr hofrennydd yn mynd heibio ac yn ddiogel yn y pellter. Dim ond un o lawer o atgofion oedd hwn. Mae gen i amryw o rai eraill o'r amser yr oeddwn yn gwasanaethu sydd yn fwy dychrynllyd. Daeth y cyfan yn fwy o realiti pan ddywedodd fy ngwraig o ugain mlynedd wrtha i bod gen i broblemau a bod angen help arna i. I ddechrau, roeddwn yn gwadu'r teimladau hyn. Doeddwn i ddim yn credu mai fi oedd e. Dyma rai o'r symptomau a brofais ond dewisais anwybyddu yn y gobaith y bydden nhw’n diflannu. Byddwn yn mynd o fod yn dawel i fod yn grac mewn fflach am bethau gwirion, yn osgoi ffrindiau a chydweithwyr. Byddwn yn cerdded i ffwrdd oddi wrth fy ngwraig pan oedd hi’n ceisio, yn ofer, i siarad am bethau. Roeddwn yn ail-fyw'r un digwyddiad dro ar ôl tro ac yn cael fy sbarduno gan arogleuon ac ati. Byddwn yn yfed dwy botel o win coch bob nos Wener a byddwn yn chwilio'n fwriadol am y gwin cryfaf er mwyn gallu bod yn anymwybodol. Byddwn yn mynd i 'syllu ymhell' fel pe bai gen i fasg ymlaen a bod dim byd arall o fy nghwmpas yn bwysig. Pan ddechreuais fy therapi, roeddwn i'n teimlo'n anesmwyth ac ar un adeg roeddwn i eisiau rhedeg o'r ystafell. Roedd hynny oherwydd y teimladau erchyll hyn o ddeffro'r holl atgofion drwg yr oeddwn wedi'u rhoi ym mhen pellaf fy meddwl. Fodd bynnag, wrth i fy sesiynau barhau, roedd yn teimlo fel pe bai cwmwl du enfawr wedi cael ei godi oddi arna i.
Hyd heddiw, ni alla i fynegi sut rydw i'n teimlo yn iawn. Mae'r help a gefais gan Cyn-filwyr GIG Cymru wedi ail-greu y person oeddwn i a’r person yr ydw i wedi bod erioed cyn ymuno â'r lluoedd: yn hoffi sgwrsio, dim hwyliau isel, yn cysgu'n well, yn dosturiol, yn darllen emosiynau pobl eraill yn well. Dwi wedi aros a sylweddoli bod byd disglair yn digwydd o'm cwmpas. Dwi’n mawr obeithio y byddwch yn cael cymorth gan Cyn-filwyr GIG Cymru. Fe wnaethon nhw fy helpu ar adeg isel iawn yn fy mywyd a gwneud i fi sylweddoli bod cuddio'r meddyliau hyn a theimlo cywilydd amdanynt yn fy ngwneud i'n waeth. Fe ddaw eto haul ar fryn. Meddyliwch amdano fel un ymdrech olaf ymlaen ac i fyny.
Diolch yn fawr iawn i [fy therapydd] yn Cyn-filwyr GIG Cymru. Rydw i bellach wedi cael cymeradwyaeth i adael gwasanaethau Cyn-filwyr GIG Cymru. Gallaf ond argymell bod unrhyw gyn-filwr nad yw’n teimlo 100% yn mynd i weld rhywun. Mae'n anodd iawn ar adegau ond byddwch yn onest gyda'ch therapydd a daliwch ati a dilyn y broses tan y diwedd. I fi, fe wnaeth ryddhau rhai pethau oedd wedi eu gwreiddio’n ddwfn. Erbyn hyn, dwi’n deall mecanwaith fy iselder ac mae gen i nawr y feddylfryd a'r agwedd i ddelio ag ef yn effeithiol. Mae gen i nawr lawenydd tuag at fywyd nad oeddwn erioed wedi meddwl ei fod yn bosibl.
Mae lefel y gefnogaeth o'r apwyntiad cyntaf i'r olaf wedi bod yn rhagorol. Roedd y driniaeth yn heriol iawn ond mae wedi bod yn hynod effeithiol – hyd yn oed pan nad oeddwn i weithiau'n credu y byddai'n gweithio. Rwy'n falch iawn o fod yn anghywir! Rwyf bellach yn ymwybodol o sut i reoli fy iechyd meddwl ac rwyf wedi gweld newid amlwg yn fy modlonrwydd personol a'm hymddygiad annerbyniol o'r blaen. Mae’n wasanaeth heb ei ail. Ni allaf ddiolch digon i'r gwasanaeth am y cymorth a gefais.
Roeddwn yn filwr yng Nghatrawd Frenhinol Cymru o 1981-1986 ac roeddwn ar wasanaeth gweithredol yng Ngogledd Iwerddon. Yn ystod y daith hon, profias sawl digwyddiad sydd wedi fy mhoenydio ers hynny.
Ar ôl cwblhau'r daith doeddwn i ddim yn gallu deall pam newidiodd fy holl bersonoliaeth. Gwelais fy mod yn yfed gormod ac yn gwylltio ac yn neidio, a effeithiodd ar fy nheulu a'm gyrfa. Roeddwn i'n cael atgofion drwg, hunllefau, newidiadau i hwyliau, nosweithiau di-gwsg, chwysu yn y nos, iselder, gorbryder a straen. Ni cheisiais gymorth ar gyfer y symptomau hyn ac ni wnes i siarad ag unrhyw ffrindiau gan nad oeddwn i eisiau cael fy labelu fel rhywun gwallgof, felly nes i gymryd popeth a chau fy mhen.
Ar ôl gadael y Fyddin, parhaodd y symptomau ac fe wnes i ar un adeg, 2 flynedd ar ôl cael fy rhyddhau, siarad gyda fy meddyg teulu gan fod y symptomau roeddwn i'n eu dioddef yn gwaethygu. Rwy'n dyfalu ar y pryd na wnes i fynegi fy hun yn ddigon clir oherwydd unwaith eto doeddwn i ddim eisiau cael fy labelu fel rhywun gwallgof ac roedd gen i gywilydd yn gofyn am help (efallai mai ffordd milwr o feddwl yw hyn).
Doedd y blynyddoedd canlynol ddim gwell, fe wnaeth yr yfed gynyddu, gwaethygodd fy mherthynas gyda fy ngwraig a'm teulu gan fy mod yn gwrthod derbyn bod gen i broblem.
Dim ond ar ôl 23 blynedd, pan nad oeddwn yn gallu ymdopi yn gorfforol mwyach, bu'n rhaid i fi siarad â'm meddyg teulu, wnaeth fy atgyfeirio at gwnselydd y practis a nododd ar ôl sawl sesiwn y gallwn fod yn dioddef o PTSD (anhwylder straen wedi trawma). Cyfeiriodd fy meddyg teulu fi at y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol a roddodd wybod i fi am brosiect peilot sy'n cael ei ariannu gan y Weinyddiaeth Amddiffyn a Llywodraeth Cymru ar gyfer cyn-filwyr â phroblemau iechyd meddwl.
Mae'r tîm iechyd meddwl cyn-filwyr cymunedol hwn wedi'i leoli yn yr Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd. Yn dilyn fy atgyfeiriad, cefais aros am gyfnod byr cyn cael fy apwyntiad am asesiad cychwynnol. Roedd fy asesiad yn drylwyr iawn ac wedi'i adeiladu'n bwrpasol o amgylch fy mhroblemau a'm pryderon ynghylch beth oedd y materion. Yn dilyn yr asesiad, rwyf wedi cael sesiynau un i un pellach gyda'r tîm. Ffurfiwyd y sesiynau hyn mewn awyrgylch dim pwysau mewn amgylchedd hamddenol iawn. Yn bersonol, roeddwn i'n ei chael hi'n haws siarad â nhw oherwydd yn fy meddwl i, roedden nhw’n niwtral ac yn ddiduedd ac roedd hyn yn helpu i gymryd baich enfawr oddi ar fy ysgwyddau. Mae popeth yn gwbl gyfrinachol a gallaf ddweud ei fod yn teimlo fy mod o'r diwedd yn siarad â rhywun sy'n deall yr hyn yr oeddwn yn mynd drwyddo.
Gallaf ddweud yn onest bod cael fy atgyfeirio at y gwasanaeth peilot hwn i gyn-filwyr wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i fi ac roeddwn i’n gallu siarad â thîm sy'n canolbwyntio'n bennaf ar y gymuned o gyn-filwyr, gyda’r ddealltwriaeth o’r ffordd y mae brwydro yn erbyn effeithiau PTSD yn effeithio ar gyn-bersonél y lluoedd arfog. Byddwn yn argymell yn fawr i'r holl gyn-filwyr sy'n credu eu bod yn cael problemau i wneud ymholiadau ynghylch cael atgyfeiriad i’r prosiect rhagorol hwn.
Rwy'n falch fy mod wedi cymryd y camau cyntaf i gael y driniaeth sydd ei hangen i'm helpu i symud ymlaen gyda fy mywyd. Hoffwn pe bawn i wedi cymryd y camau hyn 23 blynedd yn ôl!
Mae'r blynyddoedd wedi mynd i fi, ond mae'r atgofion sydd gen i mor newydd heddiw ag oedden nhw 20 mlynedd yn ôl. Am ormod o flynyddoedd, roeddwn yn mynd o ddydd i ddydd heb wynebu realiti yr hyn oedd wedi digwydd ac i fod yn onest, cafodd effaith eithaf negyddol ar fy mywyd. Roeddwn i mewn lle tywyll iawn yn sydyn iawn ac yn chwysu a chael pyliau o banig wrth feddwl am adael fy nghartref nad oedd yn ddiogel iawn ar y gorau o ganlyniad i berthynas wael gyda chymdogion. Roeddwn i'n meddwl nad oedd unrhyw un yn deall beth ydw i'n mynd drwyddo ar ôl i'r fyddin fy rhyddhau gydag anhwylder straen wedi trawma (PTSD) felly roedd ganddo label ond nid oedd yn golygu llawer i fi.
Es i o un swydd i’r llall, o un diwrnod i’r llall, o un meddyg i’r llall. Roedd fy meddyginiaeth yn anweithredol ar y gorau. Pe bawn i'n gollwng llwyaid o goffi ar y bwrdd gwaith byddwn yn torri'r jar mewn dicter pur. Byddwn yn deffro yn y nos gyda gwaed yn fy ngheg ac ar fy nghlustog. Byddwn i'n crio yn y toiled neu wrth yrru yn fy nghar. Cefais fy nerbyn sawl gwaith i ysbytai seiciatrig amrywiol ond nid oedd un o'r staff yn gwybod beth oedd wedi digwydd i fi gan fy mod yn gwrthod gadael unrhyw un i mewn. Cefais fy nghyfeirio yn y pen draw at wasanaeth Cyn-filwyr GIG Cymru Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Roeddwn yn bryderus iawn am fynd i ddechrau. Roeddwn i'n meddwl i fi fy hun, dyma ni eto a byddai’r chwysu’n dechrau - roedd y panig yn dod i mewn unwaith eto. Roeddwn i'n gwybod mai nawr oedd yr amser a bod gen i lawer o bwysau i'w ddadlwytho a llawer o gythreuliaid i gael gwared arnynt.
Rwy'n teimlo'n ffodus iawn ar hyn o bryd. Nid yw fy iechyd yn wych ond mae gen i gefnogaeth lwyr gan fy ngwraig o bum mlynedd a hi yw'r peiriant ar fy nghefn sy'n fy ngwthio ymlaen o hyd.
Fe wnes i weld fy therapydd am bron i 2 flynedd, ac rwyf wedi siarad am bethau nad oeddwn i byth hyd yn oed yn mentro sibrwd i fi fy hun rhag ofn y byddai'n rhaid i fi wynebu realiti’r hyn oedd yn digwydd. Mae fy erchyllterau'n deillio o fy nghyfnod yn Bosnia ar weithredoedd Cadw’r Heddwch yn ôl yn 1992 lle’r oeddwn yn Fagnelwr Tanciau mewn tanc ysgafn Scimitar mewn Catrawd Ragchwilio.
Ein gwaith ni oedd profi llwybrau a hebrwng cymorth yn ogystal ag unrhyw beth arall roedden nhw'n meddwl y bydden ni’n gallu ei wneud. Nid wyf yn mynd i fynd i fanylder mawr ond bydd y golygfeydd ffiaidd o’r hyn y mae bodau dynol yn gallu ei wneud i'w gilydd yn aros gyda fi am weddill fy mywyd. O blant i ferched i ddynion mewn oed i gyd yn cael eu dadleoli oddi wrth weddill y ddynoliaeth, roedd yn amser ffiaidd a rhwystredig iawn i fi. Roedd yn anodd iawn mynd i'r afael â hyn ond aeth fy therapydd gyda'i ddull perffaith ati mewn ffordd gyfeillgar iawn, yn llawn cydymdeimlad.
Rwy'n gwybod efallai na fydd y PTSD byth yn fy ngadael i'n llwyr, ond mae therapi sy'n canolbwyntio ar drawma gyda fy therapydd a'r feddyginiaeth gywir wedi rhoi'r gallu i fi ddelio â phethau yn well mewn ffordd fwy cadarnhaol.
Ni allaf ddiolch digon i dîm Cyn-filwyr GIG Cymru a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch iddyn nhw o waelod fy nghalon. Nid yn unig maen nhw wedi fy helpu i, ond maen nhw yno i bob un ohonom ni "Gyn-filwyr". Diolch i bob un ohonoch.
Cyn-fagnelwr Tanciau, Byddin Prydain.
Gwasanaethais fel milwr traed ym Mataliwn 1af y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig rhwng 1999-2005. Tra’r oeddwn yn y fyddin, fe wnes i gwblhau teithiau gweithredol o Ogledd Iwerddon ac Irac. Ers dod allan o'r fyddin, rwyf wedi cael anawsterau yn fy mywyd o ddydd i ddydd o'r amser y treuliais yn Irac.
O'r eiliad y des i nôl o Irac, roeddwn i'n berson hollol wahanol i bwy oeddwn i o'r blaen. Des i nôl o Irac ac ar yr un diwrnod roeddwn i'n gwneud paned o goffi yn nhŷ fy rhieni ac roedd ergyd uchel y tu allan a’r peth nesaf roeddwn i'n gwybod, roedd fy mam yn rhoi ei llaw ar fy ysgwydd. Roeddwn i wedi plymio i'r llawr gan feddwl ei fod yn ymosodiad mortar. Doedd yr wythnosau, y misoedd a'r blynyddoedd i ddod ddim gwahanol. Roeddwn i'n cael fy hun yn yfed, ymladd, dadlau gydag anwyliaid, methu cadw swydd oherwydd fy agwedd ddi-hid, methu gwneud chwaraeon oherwydd fy ymosodedd, hunllefau, atgofion drwg, crio, ac osgoi fy nheimladau. Aeth hyn ymlaen am ychydig flynyddoedd ac roeddwn yn byw fy mywyd o gwmpas hyn i gyd.
Cefais feddyginiaeth gan feddyg teulu i helpu gyda fy mhroblemau ond ni helpodd hyn o gwbl ac fe wnes i gario ymlaen. Cefais fy anfon i weld tîm iechyd meddwl cymunedol y GIG wnaeth wneud i fi deimlo fy mod yn wallgof ac fe waethygodd hyn fy mhroblemau a fy ngwneud yn fwy crac a thawedog. Es i at y doctoriaid eto gan nad oeddwn yn gallu cysgu ac yn cael cur pen difrifol. Roedd y meddyg a welais yn gyn-filwr ei hun ac fe atgyfeiriodd fi i weld Cyn-filwyr GIG Cymru.
Ar ôl i fi gael fy atgyfeiriad, mynychais apwyntiad gyda fy therapydd ac roedd hyn yn anodd iawn i fi wrth i ni fynd yn ôl i fy ngorffennol, rhywle nad oeddwn i byth eisiau mynd yn ôl iddo. Ar ôl yr ychydig gyfarfodydd cyntaf gyda fy therapydd, roedd yn llawer mwy cyfforddus a dechreuais agor i fyny. Roedd fy therapydd bob amser yn deall a byth yn fy ngwthio i a'r peth mwyaf i fi oedd nad oedd e byth yn fy marnu. Ar ambell achlysur cefais broblemau a'i ffonio a chynigiodd apwyntiad i fi yn syth i fy helpu.
Roedd y gwasanaeth a gefais yn Cyn-filwyr GIG Cymru yn ail i ddim. Gallaf ddweud yn onest bod mynychu cyfarfodydd gyda fy therapydd wedi fy helpu’n fawr ac wedi cael fy mywyd yn ôl ar y trywydd iawn a gallaf weld golau ar ddiwedd y twnnel o'r diwedd. Os oes unrhyw gyn-filwr yn darllen hwn, byddwn yn argymell Cyn-filwyr GIG Cymru 110%. Rwy'n falch fy mod wedi cymryd y camau tuag at gael help a symud ymlaen gyda fy mywyd a heb yr help a gefais galla i ddim meddwl ble byddwn i nawr.
Gwasanaethais yn y Peirianwyr Trydanol a Mecanyddol Brenhinol rhwng 2005 a 2011. Cefais llawer o brofiad yn yr amser y gwasanaethais, fel milwr ac fel crefft. Cefais fy anfon i Affganistan ym mis Mawrth 2009 fel peiriannydd cerbydau. Ar ôl ychydig ddiwrnodau ar y daith, roeddwn ynghlwm wrth y Môr-filwyr Brenhinol trwy gydol fy nhaith, lle na allai dim o'r profiad yr oeddwn wedi'i gael o'r blaen fod wedi fy mharatoi ar gyfer y misoedd oedd i ddod.
Dychwelais o Affganistan Hydref 2009, roeddwn i'n teimlo ar unwaith nad oeddwn i'n perthyn gartref mwyach a fy mod yn cael fy ngwthio allan o bob cylch cymdeithasol. Yn sydyn cefais fy hun yn ei chael hi'n anodd iawn rhyngweithio gyda fy ffrindiau a fy nheulu. Doeddwn i ddim yn deall sut roedd pobl yn cymryd bywyd yn ganiataol a ddim yn sylweddoli pa mor lwcus oedden nhw gyda'r bywydau oedd ganddyn nhw. Roedd hi'n anodd iawn i fi setlo i lawr a mwynhau swydd newydd y tu allan i'r fyddin.
Roeddwn i’n ei chael hi'n anodd cadw perthynas dda gyda fy ffrindiau a fy nheulu. Rhoddais lawer o straen ar fy mherthynas gyda fy ngwraig a throi at yfed llawer a mynd yn oriog iawn. Fe wnes i gadw fy holl drafferthion i mewn gan fy mod i'n meddwl fy mod i'n rhy falch i ddangos fy emosiynau go iawn, a oedd ond yn gwneud pethau'n waeth. Yna dechreuais gael hunllefau ac yna yn y pen draw cefais atgofion drwg, pyliau o banig a thrafferth yn cael noson dda o gwsg. Aeth pethau mor wael nes i fi gael fy ngorfodi i fynd at fy meddyg teulu ac yna cefais fy atgyfeirio at Cyn-filwyr GIG Cymru a chael fy asesu gan therapydd. Ro'n i'n optimistaidd iawn am gael triniaeth ar ôl i fi gael diagnosis o PTSD.
Dechreuais fy sesiynau gyda fy therapydd. Roeddwn i'n nerfus iawn ac yn ei chael hi'n anodd siarad am y pethau roeddwn i wedi'u profi. Fe wnaeth hi fy helpu i gael pethau allan a dysgodd fi sut i ddelio â'r sefyllfa yr oeddwn ynddi. Roedd hi'n anodd iawn mynd yn ôl i’r gorffennol y gwnes i drio mor galed i'w gladdu ond ar ôl pob sesiwn roeddwn yn teimlo bod pwysau wedi codi oddi ar fy ysgwyddau.
Heb help Cyn-filwyr GIG Cymru, nid wyf yn credu y byddwn byth wedi gallu symud ymlaen o'r amseroedd gwael yr oeddwn ynddyn nhw. Byddwn yn argymell GIG Cymru i Gyn-filwyr 100% i unrhyw un sydd mewn sefyllfa debyg. Hoffwn ddiolch i bawb yn y Gwasanaeth Cyn-filwyr am yr holl gymorth a chefnogaeth y maen nhw wedi eu darparu ac o'u herwydd nhw gallaf barhau â bywyd gyda fy nheulu o'r diwedd.
Fe wnes i basio allan o hyfforddiant sylfaenol y fyddin yn 2006 ac ymunais â'm catrawd a oedd eisoes allan ar daith yn Irac am 4 mis olaf eu taith. Roeddwn yn filwr yn y Corfflu Arfog Brenhinol mewn catrawd rhagchwilio ffurfiannol rhwng 2005 a 2010. Yn ystod fy mhum mlynedd, fe wnes i gwblhau lleoliadau i Op Tellic a Herrick.
Nid tan i mi ar ôl fy nhaith o Affganistan y sylwais ar newid yn fy hun. Dechreuais yfed mwy ac roeddwn bob amser ar bigau’r drain oherwydd atgofion drwg o bethau yr oeddwn wedi'u gweld yn digwydd i bersonél milwrol a sifiliaid. Ro’n i'n chwilio am wrthdaro drwy'r amser. Dewisais anwybyddu'r broblem am ychydig mwy o flynyddoedd ac ni ofynnais am gymorth gan y meddygon milwrol oherwydd teimladau o wendid.
Gadewais y fyddin yn 2011 a chyn hir dechreuais gael teimladau gwael iawn o orbryder. Ro'n i'n cymryd cyffuriau stryd ac yn yfed yn drwm i drio anghofio rhai pethau oedd wedi digwydd ar daith heb lawer o lwyddiant.
Erbyn hyn rwy'n gwybod fy mod wedi dechrau dioddef gydag anhwylder gorbryder o'r enw Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol (OCD). Ro’n i'n cael meddyliau ymwthiol drwg iawn am fod yn 'Hoyw', bod fy nghariad yn twyllo arna i a bod fy mwyd wedi'i lygru. Er mwyn fy helpu i ymdopi a chael gwared ar y meddyliau, roedd yn rhaid i fi wneud rhai pethau fel gwneud yn siŵr drwy’r dydd nad oeddwn i’n hoyw trwy edrych ar luniau, fideos o ferched i dawelu fy meddwl fy mod yn syth, edrych ar ffôn fy nghariad am negeseuon testun gan ddynion eraill, ac edrych y tu mewn i fwyd i wneud yn siŵr nad oedd wedi ei lygru. Byddai hyn yn gwneud i'r gorbryder fynd ond dim ond am gyfnod byr yna byddai'n dod yn ôl hyd yn oed yn gryfach. Byddwn yn parhau i wneud y pethau hyn i'r pwynt lle'r oedd yn cymryd drosodd ac yn difetha fy mywyd.
Ar ôl cael fy mhoenydio gan y meddyliau hyn am gyfnod, fe wnes i fynd i weld fy meddyg teulu wnaeth fy atgyfeirio at wasanaeth lleol Cyn-filwyr y GIG. Yn dilyn fy asesiad, cefais ddiagnosis o symptomau PTSD ac OCD. Ro’n i’n teimlo bod fy therapydd yn deall ac yn gymorth mawr. Ar ôl cyfnod byr o aros, dechreuais ei weld am awr bob wythnos ar gyfer therapi cleifion allanol. Fe wnaethon ni drafod y digwyddiadau ar y ddwy daith a dysgais sut i ddelio â'r symptomau.
Ar ôl 8 sesiwn wythnosol o therapi seicolegol cleifion allanol a bron i flwyddyn ers i mi ei gyfarfod gyntaf, mae fy mywyd gymaint yn well. Dwi wedi delio gyda'r PTSD a dwi ddim yn yfed yn drwm nac yn cymryd cyffuriau. Dwi’n cael noson dda o gwsg nawr ac mae fy ngorbryder yn llawer gwell. Mae'r meddyliau ymwthiol o fod yn 'Hoyw' wedi diflannu i gyd bron. Mae'r therapi yn y Gwasanaeth Cyn-filwyr wedi gwneud gwahaniaeth mawr i ansawdd fy mywyd.
Os ydych chi'n meddwl eich bod yn dioddef o unrhyw beth oherwydd yr hyn wnaeth ddigwydd i chi wrth wasanaethu yn Lluoedd Arfog Prydain, yna byddwn yn argymell eich bod yn mynd i Wasanaeth Cyn-filwyr lleol y GIG trwy'r wefan hon ac yn hunanatgyfeirio, eu ffonio neu e-bostio nhw. Mae pawb y byddwch chi'n cwrdd â nhw i drafod eich problemau yn dda iawn yn yr hyn maen nhw'n ei wneud ac yn deall bywyd milwrol yn dda hefyd. Yn fwy na dim, maen nhw yno i'ch helpu felly peidiwch â dioddef yn dawel.
Fy enw i yw Sandy ac rwy'n gyn-filwr yn y fyddin a gafodd ddiagnosis PTSD ychydig flynyddoedd yn ôl. Gwasanaethais am sawl blwyddyn yng Ngogledd Iwerddon yn yr 1980au ac yn ddiarwybod i fi, ro’n i’n dioddef o PTSD yn barod o fy ngyrfa gynharach yn y fyddin. Ar ôl gadael y fyddin, gweithiais fel gwarchodwr personol a threuliais 7 mlynedd yn Irac. Daeth fy mhrofiadau PTSD i uchafbwynt (ar ôl 26 mlynedd o'r trawma cyntaf) ac fe ffrwydraid mewn trais pan oeddwn yn ôl yn y DU. Es i i’r carchar yn y pen draw.
Collais fy ngwraig a fy nghartref. Ar ôl cyfnod byr yn ddigartref yn swyddogol, cefais fy hun yn byw ar fy mhen fy hun. Ceisiais gymorth ac yn y pen draw cwrddais â fy therapydd cyn-filwyr yn Cyn-filwyr GIG Cymru yn y clinig yn Abertawe. Fi oedd yr amheuwr mwyaf ar y blaned o ran "therapi" ac roedd meddwl am ryw "sifiliad" yn mynd y tu mewn i'm pen yn chwerthinllyd i fi. Wedi dweud hynny ro’n i ar goll mewn byd o gam-drin alcohol, trais a cheisio lladd fy hun yn gyson. Roedd yn rhaid i fi roi cynnig arni.
Yn fy nhaith gyda fy therapydd drwy’r PTSD, fe ddes nid yn unig i ymddiried ynddi ond ei pharchu hi hefyd. Allwn i ddim fod wedi bod yn fwy anghywir am ei gallu i "fy neall i". Fe wnaeth hi fi yn fwy agored a gadael i fi agor i fyny mewn ffordd nad oeddwn i byth wedi meddwl oedd yn bosibl i ddyn fel fi. Fi oedd y dyn oedd yn yfed yn galed, chwarae’n galed, a "dim byd yn fy nghyffwrdd'. Pwy oedd y fenyw hon oedd yn gallu gwneud i fi weld safbwynt gwahanol? Fe wnaeth i fi herio fy ymddygiad, fy rhesymeg, ac archwilio'n fanwl y digwyddiadau oedd yn rhoi cymaint o drafferth i fi.
Gwnaeth hi hyn i gyd heb fy ngwneud i'n anghyfforddus. Roedd y trawma yn anodd i ddelio ag ef wrth gwrs, a dydw i ddim yn mynd i esgus bod fy nhaith yn hawdd achos doedd e ddim. Dyw therapi ddim yn hawdd. Mae'n anodd sylweddoli bod eich bywyd wedi cael ei effeithio mewn cymaint o ffyrdd, y gallai pethau fod wedi bod mor wahanol "pe bai".
Dwi wedi treulio blwyddyn mewn therapi, oherwydd dyna beth oedd e, gofal. Mae hi yn poeni ac roedd hynny’n amlwg ym mhob sesiwn gyda hi. Doedd dim gwahaniaeth faint o weithiau oedd yn rhaid i fi ailedrych ar ddigwyddiad, nid oedd yn gadael i fi symud ymlaen nes fy mod i wedi cysylltu'n emosiynol ag e a’i bod hi’n teimlo fy mod i wedi delio ag e. A dweud y gwir oni bai am Cyn-filwyr GIG Cymru, fy therapydd yn enwedig, ni fyddwn i yma heddiw. Byddwn i wedi llwyddo i ladd fy hun yn y pen draw.
Yr unig beth rwy’n ei ddifaru. Peidio cael help yn gynt. I unrhyw gyn-filwr sy’n meddwl fel o’n i yn fy "nyddiau tywyll" bod neb yn deall, heb yn gallu helpu, rydych chi'n ANGHYWIR. Yn union fel o’n i'n anghywir. Alla i ddim canu clodydd Cyn-filwyr GIG Cymru ddigon. Mae fy therapydd yn seren, yn weithiwr proffesiynol ymroddedig ac yn bleser i fod wedi cwrdd â hi a rhannu fy nhaith at adferiad gyda hi.
Mae yna lawer iawn o bobl, pwysig ac annwyl iawn, sydd wedi dioddef o'r dicter yr wyf wedi'i dywallt dros ryw 30 o flynyddoedd. Mae pob un dwi wedi ei garu a gofalu amdano wedi cael ei greithio mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, yn feddyliol neu'n gorfforol. Doedd dim gwahaniaeth nes ei fod ar ben ac nid oedd troi nôl.
Bywyd wedi ei wastraffu. Ym mis Ionawr, bydda i’n 57 oed a dim ond nawr, yn llawer doethach. Ddwy flynedd yn ôl, cefais ddiagnosis o PTSD ac OCD. Ar ôl cyfnod byr dechreuais therapi gyda fy therapydd a 28 wythnos yn ddiweddarach mae gen i ddealltwriaeth sylfaenol o fy mywyd a pham mai fi oeddwn i.
Nid wyf yn falch o'r gorffennol, ond o leiaf mae gen i ddealltwriaeth pam. Dydw i ddim yn gwybod pa mor hir fydd y daith hon, ac rwy'n gwybod pa mor anodd y mae wedi bod hyd yn hyn, ond dwi’n gwybod, heb gymorth fy therapydd, y byddwn yn ansicr iawn o fy nyfodol, a hyd fy oes. Dwi’n hoffi fy hun nawr, a dwi’n caru bywyd, fy mywyd i. Mae'n dal i fod yn llawer o waith caled, ond mae'r niwl yn clirio ac mae deall y broses yn ei wneud yn llawer cliriach.
Carchar, camddefnyddio alcohol, cyffuriau. A wnaeth unrhyw berson pan oeddech chi'n gadael y lluoedd arfog egluro i chi sut beth fyddai'r newid i fod yn sifiliad a pha mor anodd fyddai'r trawsnewid hwnnw? Dwi’n gwybod ein bod ni i gyd yn wahanol ac rydyn ni i gyd yn trin pethau'n wahanol. Os ydych chi wedi cwestiynu eich hun mewn unrhyw ffordd am eich ymddygiad ac yna wedi meddwl am yr ateb hwn: "Bydda i'n iawn, dwi’n gallu ymdopi", wedyn rydych yn cuddio rhag y gwir, fel y gwnes i am gymaint o flynyddoedd ac ar sawl achlysur yn anffodus.
Mae fy therapydd a'r bobl yn Cyn-filwyr GIG Cymru yn anhygoel, maen nhw'n ymroddedig i ni, ac maen nhw'n poeni. Maen nhw’n ein helpu i ddeall yr hyn rydyn ni wedi bod drwyddo a sut, gyda'r prosesau, y gallwn fyw bywyd llawn a hapus. Ond yr hyn dwi’n teimlo sy'n bwysig yw, byddwn yn deall pa mor anodd yr ydyn ni wedi gwneud pethau i'r bobl rydyn ni'n eu caru ac sy'n ein caru ni. Mae'r holl bobl hyn yn poeni, ac mae angen i'r rhan hon o'r system ledaenu. Dylai gwybodaeth Cyn-filwyr GIG Cymru gael ei hysbysebu ar draws y cyfryngau. Fel ein bod ni Gyn-filwyr a'r rhai fydd yn Gyn-filwyr yn y dyfodol yn gwybod ein bod yn bwysig, hyd yn oed fel sifiliaid.
I fy therapydd a'r holl bobl y tu ôl iddi hi a Llywodraeth Cymru, diolch o waelod calon am fod yn ofalgar a rhoi'r cymorth a'r gefnogaeth oedd eu hangen arna i gymaint. Dwi'n hoffi fi nawr - pwy allu di ei hoffi? Diolch.
Gwasanaethais yn y fyddin am 22 o flynyddoedd, ar ôl gadael y gwasanaeth cefais y Fedal Gwasanaeth Teilyngdod M.S.M. Fy nghrefft oedd mecanig adfer yn y R.E.M.E oedd yn cynnwys hyfforddiant yn y grefft, ffrwydron a maglau ffŵl. Hefyd, fe wnes i gwrs rheoli adran comander a nifer o gyrsiau milwyr troed i wella fy sgiliau milwr.
Treuliais 17 mlynedd o fy ngyrfa yn yr Almaen, Hameln, Munster, Osnabruck, Gutersloh a Fallingbostel, dwy flynedd yng Nghyprus ac yn olaf fel hyfforddwr y grefft. Yn ystod y teithiau hyn, cefais fy anfon i Ogledd Iwerddon, Bosnia, Kosovo, Cyprus a Chanada. Fel mecanydd adfer rydych yn cael amrywiaeth o dasgau, rhai diflas weithiau ac ar adegau eraill, damweiniau erchyll sy'n cynnwys nifer o anafusion. Llawer o'r amser roedd y rhai a anafwyd yn dal yn y cerbydau.
Gogledd Iwerddon, cael eich dal mewn terfysgoedd a mynd allan bob dydd yn cynnal gweithredoedd cudd. Bosnia, gweld golygfeydd trawmatig iawn. Kosovo, roedd yn rhaid i ni ddelio â niferoedd enfawr o ffoaduriaid a llawer iawn o elyniaeth tuag atom. Yn 2001-2002 yn 2il Fataliwn Fally dechreuais fynd yn isel iawn oedd yhn gwneud yr hunllefau'n waeth i ddelio â nhw, gan achosi diffyg cwsg ac ro’n i’n bigog iawn ac yn grac. Pan gefais y cryfder yn y diwedd i ddweud rhywbeth am y peth, ni chafodd llawer ei gyflawni mewn gwirionedd. Nid oedd y meddyg yn dangos llawer o ddiddordeb, mewn gwirionedd, ro’n i’n teimlo’n gwbl ddi-werth. Es i hyd yn oed i weld Comander y Cwmni, rhywun yr oeddwn wedi gwasanaethu gydag e o'r blaen. Mewn gwirionedd, ei gyngor i fi oedd ildio fy rheng Sarsiant Staff a chael swydd yn y DU. Ges i ddim cefnogaeth gan yr 2il Fataliwn o gwbl, mewn gwirionedd ro’n i'n teimlo fel person gwahanglwyfus wrth gyrraedd y DU. Cefais fy ngalw i mewn i swyddfa'r ASM a chael cerydd a chlywed bod angen i fi gallio.
Nid oedd anawsterau iechyd meddwl byth yn cael eu trin yn y Fyddin a'r ffordd yr oedd milwyr yn trin y peth oedd drwy yfed, ymladd, ymladd nid ffoi! Roedd yr hunllefau'n gwaethygu gyda fi'n deffro ar ôl dyrnu allan a chwalu addurniadau oedd wrth ymyl y gwely. Heb sylweddoli fy mod i'n mynd yn bigog iawn. Dechreuais roi'r gorau i ddarllen a gwneud diddordebau oherwydd fy mod yn cael trafferth ymlacio. Fe wnes i roi'r gorau i weithio ar offer nwy oherwydd bod fy lefel canolbwyntio yn wael iawn. Collodd fy ngwraig a finnau ein tafarn gan ein rhoi mewn dyled enfawr. Dechreuodd fy nhŷ o fy mhriodas flaenorol gael ei adfeddiannu a phenderfynodd fy mhlant nad oedden nhw eisiau dim mwy i’w wneud â fi. O edrych yn ôl, d’on i ddim wir yn ymdopi'n dda iawn, ro’n i'n bendant yn ymosodol iawn ac yn troi at ymladd mewn chwinciad, mewn gwirionedd ro’n i’n troi yn ffŵl gwirion.
Roedd atgofion drwg a meddyliau ymwthiol yn rhan o'r norm ac yn gallu tynnu fy sylw o ddifrif am rai munudau. Nid oedd ceisio anghofio fy mhrofiadau yn opsiwn, roedden nhw wedi eu serio yn fy meddwl ac yn fy ngwneud yn fom oedd ar fin ffrwydro. Gan ein bod mewn cymaint o ddyled heb wybod ble i droi, perswadiodd fy ngwraig fi i gysylltu â SSAFA wnaeth ein helpu i ganfod ein traed a chefais wybod am Cyn-filwyr GIG Cymru, ond gan fy mod yn ddyn balch ro’n i'n meddwl y gallwn i barhau fel arfer. Am ffŵl. Ar ôl cael hunllef gwael a tharo fy ngwraig, roedd yn rhaid i fi roi fy malchder i un ochr a ffonio'r rhif a roddwyd i fi.
Siaradais â rhywun yng Nghaerdydd a ddywedodd fod newidiadau yn digwydd yn y gwasanaeth a fyddai'n achosi ôl-groniad gydag asesiadau cychwynnol, gan feddwl fy mod i’n cael fy anwybyddu eto, anghofiais am y peth. Yn annisgwyl, cyrhaeddodd llythyr yn fy ngwahodd am asesiad cychwynnol ym Mhont-y-pŵl, Ysbyty’r Sir. Ro'n i’n nerfus, mewn gwirionedd, yn nerfus iawn. Daeth fy ngwraig i fod yn graig i fi. Roedd yr asesiad yn hynod emosiynol gyda fi yn sôn am lawer o’r profiadau i'r therapydd cyn-filwyr druan, oedd fel pe bai'n cymryd y cyfan i mewn ac yn gwrando. Dyma’r tro cyntaf i unrhyw un heblaw fy ngwraig wrando a gwneud nodiadau.
Roedd cael gwybod ei bod hi'n credu fy mod i'n dioddef o PTSD jyst yn gwneud i fi feddwl fy mod i'n mynd yn wallgof. Mae angen seiciatrydd arna i i ymdopi, am ddyn gwan, Iesu rydych chi'n colli'ch meddwl. Ie, roedd yn eithaf hawdd unwaith yr oeddwn wedi dweud stori fy mywyd wrth y therapydd cyn-filwyr. Roeddwn eisiau aros gyda rhywun yr oeddwn yn ymddiried ynddo. ThGY sy'n canolbwyntio ar drawma - pan fyddwch chi'n dechrau triniaeth am y tro cyntaf, mae'n rhaid i chi orfodi eich hun yn feddyliol ac yn gorfforol i fynychu'r sesiynau triniaeth oherwydd eich bod chi'n ofni edrych, meddwl, breuddwydio am eich gorffennol a'r golygfeydd rydych chi wedi'u gweld. Pan fyddwch chi yng nghanol pethau mae'n dechrau teimlo'n eithaf normal a diddorol, mae'n swnio'n rhyfedd ond ro’n i eisiau dysgu mwy. Ar ddiwedd y driniaeth os ydych chi'n teimlo eich bod yn colli rhywbeth, mae blanced ddiogelwch yn dod i'r meddwl ond nawr rwy'n teimlo y galla i helpu dioddefwyr eraill.
Gyda chymorth meddyginiaeth mae bywyd yn dechrau teimlo fel pe bai eich meddwl yn ffinio ar ochr normalrwydd. Mae'r sgiliau rydych chi'n eu dysgu mewn triniaeth yn helpu cymaint fel y gall fynd â chi nôl i realiti mor gyflym. Yn gorfforol dwi ddim yn meddwl mod i erioed wedi bod mor ffit, roedd yn ffordd o weithio drwy fy nhriniaeth. Erbyn hyn, dwi'n teimlo fy mod i'n gallu siarad â phobl am PTSD a golygfeydd dwi wedi eu gweld er bod y golygfeydd mor greulon - ac rwy’n gallu golygu hynny er mwyn pobl eraill. Mewn gwirionedd, y ffordd nes i fod yn agored gyda theulu a ffrindiau oedd yn fy mhriodas yn araith y priodfab. Ar y funud olaf, penderfynais anghofio fy araith ysgrifenedig a dweud wrth bawb yr uffern yr oeddwn i wedi rhoi fy ngwraig drwyddi a faint mae hi wedi helpu i fy nghadw ar y llwybr iawn. Gweithredu cymdeithasol, ha!, beth yw hynny? Oherwydd patrymau gwaith fy ngwraig nid oes gennym fywyd cymdeithasol sy'n fy siwtio i’n iawn, dydw i ddim yn cymysgu â sifiliaid.
Mae iechyd meddwl yn salwch, nid pla na gwahanglwyf, mae gennych hawl i fyw bywyd normal ond i wneud hyn mae'n rhaid i chi wrando ar eich therapydd cyn-filwyr ac os ydych yn cael tasgau, gwnewch nhw. Does dim gwerth dweud celwydd wrthyn nhw. Sut maen nhw'n gwybod os yw pethau'n gwella os ydych chi'n mynd i fod yn fwy llac a pheidio â dweud y gwir? Yn y pen draw, yr unig un rydych chi'n dweud celwydd wrtho yw chi eich hun. Pe bawn i'n cael cais i asesu Cyn-filwyr GIG Cymru, byddwn i'n dweud eu bod nhw'n wych, edrychwch ar yr hyn maen nhw wedi'i wneud i fi. Ro’n i’n llanast llwyr a nawr mae gen i'r hyder i fynd i'r afael â fy mhroblemau a gwirfoddoli i sefyll o flaen gweithwyr proffesiynol i'w helpu i'n deall ni, y rhai anghofiedig.
Ro’n i'n amharod i ofyn am help gan unrhyw un ac yn meddwl pe bawn i'n cario ymlaen, byddai amser yn iachau, ond ar ôl 13 mlynedd o osgoi fy symptomau PTSD roedd yn waeth nag erioed. Ro’n i'n gwthio fy mywyd i'r terfynau ar bob cyfle naill ai'n gyrru'n gyflym neu'n reidio fy meic modur i'r eithaf. Ro’n i'n mynd i ddyled, ac yna clywais o'r diwedd am fy nau ffrind oedd wedi lladd eu hunain. Gorffennais y gwaith am y tro cyntaf yn fy mywyd i dderbyn triniaeth. Roedd yn gam peryglus ond doedd gen i ddim dewis. O'r diwedd fewnes i wrando ar fy ngwraig, gweld meddyg neu dyna ni.
Fe wnaeth y meddyg roi diagnosis o PTSD difrifol i fi. Ro’n i’n amharod i siarad am fy ngorffennol, roedd wedi bod yn gyfnod hir ond yn dal i deimlo fel wythnos diwethaf. Ro'n i mor grac ond yn drist y tu mewn, yn gorfeddwl popeth, dyma oedd fy niwedd. Ro’n i wedi ysgrifennu llythyrau a dyddiaduron am y ffordd roeddwn i'n teimlo, a phob tro ro’n i’n eu darllen ro’n i'n casáu'r person oeddwn i. Ro’n i'n meddwl nad oedd gen i ddim i'w golli, felly siaradais â therapydd.
Ro’n i'n gwybod y byddai’n fi a nhw ac y byddai'n gyfrinachol, oedd yn bwysig iawn gan mai dyma oedd fy nghyfrinach fwyaf! Ro’n i'n teimlo'n gartrefol gyda fy therapydd a dargedodd fy mhroblemau a blaenoriaethu fy meddyliau uniongyrchol er mwyn dod yn fwy sefydlog. Yna dechreuon ni ddadansoddi fy meddyliau. Roedd yn braf clywed nad oeddwn i ar fy mhen fy hun a doedd dim rhaid i fi deimlo mor euog ac roedd cael safbwynt arall gan y therapydd yn help mawr. Dwi'n gwybod na fydd fy PTSD byth yn cael ei wella ond rwyf bellach yn gyfrifol amdano yn hytrach na’i fod e’n gyfrifol amdana i. Fe wnaeth fy therapydd cyn-filwyr achub fy mywyd a bydda i, fy ngwraig a dau fachgen bach bob amser yn ddiolchgar, rhoddais gynnig ar therapi sy'n canolbwyntio ar drawma ac fe achubodd fy mywyd. Beth sydd ‘da chi i'w golli?
Ar ôl cwblhau 14 mlynedd fel milwr troed roedd hi'n amser i fi hongian fy esgidiau i fyny a gadael y Fyddin. Ar ôl dioddef anafiadau yn ystod fy ngwasanaeth, cefais fy rhyddhau ar sail feddygol ym mis Mehefin 2013.
Es i ar dair taith yn ystod fy nghyfnod yn Kosovo a dwy i Irac. Fel llawer o'm blaen, roedd yr amser a dreuliwyd yn y lleoedd hyn yn ymddangos yn wych, o'r diwedd roeddech yn cael cyfle i wneud eich gwaith fel milwr troed.
Gyda phob sefyllfa roeddech yn ei hwynebu, roeddech yn gwybod bod gennych gwmnïaeth a chefnogaeth eich cyd-filwyr. Roedd hyn yn rhy dda o lawer tan y diwrnod ofnadwy pan fyddwch chi'n gadael ac yn sylweddoli am y tro cyntaf eich bod ar eich pen eich hun.
Ar ôl gadael ro’n i'n meddwl bod gen i'r sgiliau angenrheidiol i symud ymlaen yn fy mywyd newydd ond ychydig iawn oeddwn i’n sylweddoli fy mod mewn gwirionedd yn ei chael hi'n anodd. Dywedodd fy ngwraig wrtha i fy mod yn troi’n berson gwahanol a bod fy hwyliau yn wael, fy mod yn wrthgymdeithasol ac yn gwrthod rhyngweithio. Fe wnes i ddiystyru hyn gan feddwl fy mod i wedi bod fel hyn ers blynyddoedd. Yr unig dro ro’n i'n meddwl ei bod hi'n iawn oedd pan aeth tân gwyllt i ffwrdd yn y dref ac fe wnaeth hynny fy nychryn i ac roedd yn rhaid i fi fynd i mewn.
Parhaodd hyn ac yn y pen draw ro’n i’n gallu gweld ochr arall i fi fy hun. Do’n i ddim yn gallu ymgysylltu, ro’n i'n ymosodol ac yn pellhau fy hun o'r rhai rydw i'n eu caru.
Yn y diwedd, es i at y meddyg teulu a siarad â nyrs a ddywedodd y gallwn fod yn dioddef o PTSD. Fe wnes i chwerthin ar hyn a meddwl, na dim fi. Cefais wybodaeth oedd, er syndod i fi, yn fy nisgrifio i yn berffaith.
Cefais fy sesiwn gyntaf ym mis Ionawr 2014. Pan gyrhaeddais yno, roeddwn i'n meddwl y byddai’n wastraff amser, ond ar ôl i'r siarad ddechrau, nes i ddim stopio am 2 awr
Cefais lawer o sesiynau gyda fy therapydd lle rhoddodd gyfarwyddyd a gwybodaeth i fi ddeall fy nghyflwr ac adnabod yr arwyddion. Fe wnaeth hefyd fy helpu drwy'r anawsterau roeddwn i'n eu hwynebu yn y gweithle, ac fe wnaethon ni drafod ei bod hi'n iawn cael seibiant ac ymlacio.
Ro’n i’n pwyso ar fy therapydd a llwyddodd i ddylanwadu arna i mewn ffordd gadarnhaol yr wyf yn mynd i’w throsglwyddo i eraill a gweithio tuag at ddod yn gwnselydd, ac rwy’n dechrau eleni, ym mis Medi 2015. Gyda'r profiadau a'r wybodaeth a gafwyd byddaf yn ymdrechu i wneud newid a chynorthwyo'r rhai sydd ei angen, fel fi.
Heb gymorth Cyn-filwyr GIG Cymru, ni fyddwn wedi gallu newid fy ffyrdd a heb ddod i delerau â PTSD. Rwy'n adnabod ac yn gallu addasu i sefyllfaoedd penodol. Rwy'n deall bod gen i ffordd bell i fynd ond gyda'r dulliau a ddangoswyd i fi a chefnogaeth lawn Cyn-filwyr GIG Cymru, dwi’n credu y gallaf gael ansawdd bywyd gwell.
Rwy'n gobeithio, os ydych chi'n darllen hwn, eich bod chi o leiaf wedi yn cysylltu ac yn dechrau gwneud newidiadau yn eich bywyd.
Mae'r gwasanaeth hwn wedi fy helpu i oresgyn y trawma. Rwyf wedi cael llawer o driniaethau dros y blynyddoedd i fy helpu i ddelio â fy ngwallgofrwydd - dyma'r tro cyntaf i fi weld sut y gall trawma’r gorffennol effeithio ar drawma’r presennol, ac wrth wneud hynny mae wedi caniatáu i fi weld y darlun cyflawn am y tro cyntaf. Mae hyn wedi fy ngalluogi i ddeall sut roedd fy mhryderon i gyd yn rhan o'r darlun. Nawr, hebddyn nhw, mae'n teimlo'n well ac ar yr un pryd yn frawychus, gan nad oes gen i esgus dros fy ymddygiad gwael. Diolch i chi am eich help. Dw i’n ddiolchgar iawn.
Dwi wedi penderfynu siarad allan am fy mhrofiad yn y Llu Awyr Brenhinol, ac asiantaethau gorfodi'r gyfraith eraill, gan fy mod yn credu y gallai fod amharodrwydd i wynebu neu gyfaddef teimladau dwfn gan gyn-filwyr y tu allan i rôl 'arferol' cyn-filwyr ymladd rheng flaen uniongyrchol. Dydw i ddim yn bwriadu tanseilio'r erchyllterau eithafol a welwyd ac a brofwyd gan y dynion a’r menywod fu’n ymladd mewn gwrthdaro diweddar, ond byddwn yn ceisio cynnwys profiadau yr un mor ddirdynnol weithiau yn y Llynges Frenhinol, y Llu Awyr Brenhinol, a'r lluoedd cefnogi ac wrth gefn/tiriogaethol, a mwy.
Gwasanaethais yn y Llu Awyr Brenhinol o ddiwedd y 60au i ddiwedd y 70au mewn grŵp masnach a oedd weithiau'n dod â fi i gysylltiad uniongyrchol â gwrthdaro ac anafusion. Dewisais y rôl hon yn benodol yn 17 oed, a phrofi digwyddiadau a oedd i aros gyda fi, a dod yn ôl i’r cof yn achlysurol drwy gydol fy mlynyddoedd dilynol ym maes gorfodi'r gyfraith tan fy ymddeoliad diweddar. Dwi'n sylweddoli nawr bod y profiadau hyn wedi bod yn llechu yn fy isymwybod ers hynny, gan ddioddef symptomau clasurol problem seicolegol yn gysylltiedig â straen. Daeth y rhain i'r amlwg yn 2010 pan gefais drawma sylweddol ar yr ymennydd, ac ar ôl gwella i ryw raddau o'r effeithiau ffisiolegol, daeth yr atgofion annifyr iawn o fy ngwasanaeth cynharach yn ôl yn ddidrugaredd.
Newidiodd fy mhersonoliaeth yn sylweddol ar ôl y digwyddiad hwn, ac achosodd broblemau eithaf trawmatig i fi. Dioddefais broblemau ymddygiad, iselder, gorbryder, a llu o symptomau eraill nad oeddwn yn sylweddoli eu bod i gyd yn gysylltiedig â fy ngyrfa flaenorol. Fe wnaeth fy meddyg teulu drin fy symptomau gyda meddyginiaeth, ond anogodd fi i ofyn am gymorth arbenigol gan weithwyr proffesiynol a oedd yn delio'n benodol â'r 'problemau' hyn. Gwrthodais gael fy atgyfeirio am asesiad seicolegol sawl gwaith, ond cytunais yn y pen draw gan nad oedd fy mywyd fel y dylai fod, ac roeddwn yn dechrau sylweddoli bod rhywbeth o'i le. Gwelais a chefais fy asesu gan yr arbenigwyr priodol, a roddodd ddiagnosis o fath posibl o PTSD, naill ai'n gysylltiedig â gwasanaeth milwrol neu anaf trawmatig i'r ymennydd, neu gyfuniad o'r ddau.
Cefais fy atgyfeirio at wasanaeth Cyn-filwyr GIG Cymru, ond gwrthodais y cynnig o driniaeth gan fy mod o'r farn bod y gwasanaeth hwn wedi'i fwriadu ar gyfer ymladdwyr diweddar sy'n dychwelyd o wrthdaro mwy diweddar Affganistan ac Irac. Do’n i ddim eisiau cymryd yr amser a'r adnoddau roeddwn i'n meddwl bod milwyr eraill yn fwy haeddiannol ohonyn nhw. Gwrthwynebais am beth amser nes cael fy mherswadio gan y dirywiad parhaus yn ansawdd fy mywyd, a fy meddyg teulu yn mynnu. Ar ôl asesiad cychwynnol gan Therapydd Cyn-filwyr, cefais ddiagnosis o PTSD, a oedd mewn rhai ffyrdd yn rhyddhad, gan fod gen i ateb erbyn hyn, a rhywbeth y gallwn ddechrau canolbwyntio arno a gyda chymorth y Gwasanaeth Cyn-filwyr, lleddfu’r baich o bosibl.
Yn ddiweddar rwyf bron â chwblhau cwrs o driniaeth a oedd ynddo'i hun yn dirdynnol i ddechrau, ond a aeth yn gynyddol fwy cynhyrchiol wrth iddyn nhw ddangos i fi sut i fynd i'r afael â'r agweddau negyddol ar fy rhesymu, yr oeddwn wedi bod yn eu meithrin ers blynyddoedd lawer ac a oedd wedi dod yn arferiad. Dwi wedi cael yr offer i ddeall a phrosesu fy meddyliau mewn ffordd fwy realistig a chadarnhaol, a dwi wedi dod yn llawer mwy bodlon ac mewn gwirionedd dwi’n dechrau mwynhau a gwerthfawrogi'r pethau da yn fy mywyd.
Mae gen i freuddwydion o hyd, dwi'n dal i gofio rhai o'r digwyddiadau hynny, a byth eisiau eu hanghofio, ond dwi bellach yn gallu eu gweld yn llawer gwell, a'u barnu mewn ffordd fwy pragmataidd. Mae'r driniaeth bron yn gyflawn! Ydw i'n hapus fy mod wedi gofyn am help? Yn bendant. Bydda i byth yn anghofio'r digwyddiadau hynny, maen nhw'n rhan o fy mywyd, ac ni ddylid byth eu gwadu. Hanfod fy neges yw nad yw materion seicolegol fel PTSD yn unigryw i filwyr 'rheng flaen'. Boed yn y Llu Awyr Brenhinol, y Llynges Frenhinol, y Fyddin Brydeinig, ac yn credu eich bod yn dioddef oherwydd digwyddiad trawmatig o unrhyw natur, byddwn yn eich annog i chwilio am wasanaethau Gwasanaeth Cyn-filwyr GIG Cymru. Maen nhw’n gallu, ac yn ceisio eich helpu. Mae nhw wedi gwneud hynny i fi a bydda i byth yn difaru gwneud y penderfyniad hwnnw, peidiwch â dioddef yn dawel. Pob lwc.
Ro’n i'n feddyg am chwe blynedd. Cefais fy anfon ar ddwy daith weithredol (Telic, Herrick). Sylwais ar ôl fy nhaith fwyaf diweddar fod "pethau" yn wahanol amdana i. Ro’n i'n teimlo'n bryderus, yn nerfus ac yn methu â chadw ffocws mewn bywyd. Byddwn yn defnyddio mecanweithiau ymdopi echrydus iawn fel yfed bob dydd, defnyddio cyffuriau a chadw meddyliau a theimladau i mewn. Llwyddais i fyw fel yna am bedair blynedd cyn i bethau fy llethu’n gyfan gwbl ac roedd yn rhaid i fi gael help. Do’n i ddim eisiau cyfaddef i unrhyw un bod problem ac nid oedd byth yn cael ei grybwyll mewn sgwrs. Ro'n i'n teimlo mod i'n wan os oedd gen i broblem ac yn gwadu hyn.
Dechreuais fynd i sesiynau therapi gyda therapydd oedd yn gyn-filwr o Cyn-filwyr GIG Cymru. Cymerodd amser i fi ddod i arfer â'r driniaeth. Ar ôl ychydig fisoedd, sylwais fod y driniaeth yn gweithio. Fe wnaeth bethau lithro’n ôl ychydig ar hyd y ffordd ond gyda'r gefnogaeth a'r cyngor gan fy therapydd ro’n i nôl ar y trywydd iawn yn gwneud cynnydd. Dysgais lawer o ffyrdd newydd o ymdopi â fy iechyd meddwl. Mae yna lawer o ddulliau ymdopi ar gael ac mae’n fater o ddod o hyd i'r rhai sy'n gweithio orau i chi.
Neges y byddwn i'n ei rhoi i unrhyw berson oedd yn lluoedd Prydain yw i geisio cymorth os ydych chi'n profi unrhyw broblemau iechyd meddwl, yn ddelfrydol pan ydych yn gwneud gwasanaeth milwrol neu wrth adael. Nid yw'n arwydd o wendid, nid yw'n ddim byd i deimlo cywilydd yn ei gylch. Peidiwch â'u gadw y tu fewn!! Ceisiwch help!!
Gwasanaethais am bron 25 mlynedd ym Myddin Prydain yng Ngogledd Iwerddon, y Balcanau, Irac ac Affganistan. Ar fy ail daith o Affganistan yn ystod gweithrediadau ymladd, gwelais wir erchyllterau rhyfel. Fel Uwch Sarsiant y Cwmni, un o fy nghyfrifoldebau oedd rheoli anafiadau. Trwy gydol y daith hon ymdriniais ag anafusion di-rif a oedd yn cynnwys milwyr a anafwyd ac a laddwyd ar faes y gad, gwrthryfelwyr clwyfedig a marw, sifiliaid clwyfedig a marw, gan gynnwys menywod a phlant. Fe wnes i hefyd ddelio â chanlyniad ymosodiad hunanladdiad a oedd yn ofnadwy. I fi, doedd yr 'achosion trwch blewyn' ddim yn effeithio arna i ond fe wnaeth y sifiliaid marw ac wedi eu hanafu gael effaith fawr arnaf.
Roeddwn ar fy nhrydedd taith o Affganistan pan darodd arwydd gwael o PTSD fi. Mae'n bwysig deall mai’r cyfnod o ddod i gysylltiad â'r digwyddiadau trawmatig a phrofi arwyddion acíwt PTSD oedd pedair blynedd! Er bod yr 'arwyddion rhybudd' nad oedd pethau'n iawn yn fy mywyd (e.e. dangos arwyddion o osgoi) rhwng amser dod i gysylltiad â'r digwyddiadau trawmatig, nid oedd unrhyw arwyddion amlwg o broblemau iechyd meddwl. Pan darodd arwyddion acíwt PTSD fi roedd yn erchyll, doeddwn i methu stopio crio, dechreuodd pethau arafu o'm cwmpas, dechreuais gael hunllefau, gweld delweddau o bobl farw, roedd y gorbryder yn erchyll. Ro’n i'n teimlo cywilydd am yr hyn a wnes i.
Gan fy mod yn dal i wasanaethu, roedd yr Adran Iechyd Meddwl Cymunedol (DCMH) yn darparu gofal a thriniaeth. Roedd hyn yn cynnwys meddyginiaeth a therapi (ADSLl a ThGY). Am ddwy flynedd ges i driniaeth ond prin oeddwn i'n dal fy mhen uwchben y dŵr, yn ymladd y salwch, yn trio gwneud fy ngwaith ac yn cuddio fy salwch. Ond, ro’n i'n gwella'n araf, roedd bywyd yn her go iawn. Ro'n i'n arfer eistedd ar fy ngwely cyn gwaith a chrio wedyn sychu fy llygaid a mynd i mewn i'r gwaith. Ro’n i'n arfer crio pan oeddwn yn gadael gartref ar fore Llun ac eto pan oedd fy ngwraig yn fy nghasglu yn yr orsaf ddiwedd yr wythnos. Ro’n i'n gwybod nad oedd yr 'amgylchedd' yn helpu fy adferiad. O'r diwedd cefais fy rhyddhau ar sail feddygol yn 2014.
Ar ôl i fi adael y Fyddin fe wnes i barhau i gymryd fy meddyginiaeth ond ro’n i'n gwybod bod angen mwy o driniaeth arna i. Daeth hyn yn amlwg pan ddechreuais fy swydd sifil gyntaf oherwydd ar ôl chwe wythnos dechreuais ddirywio’n gyflym eto. Fe aeth pethau mor ddrwg, es i ar absenoldeb salwch ac ychydig wythnosau'n ddiweddarach, dywedais fy mod yn gadael. Yn ystod y cyfnod hwn cysylltais â Cyn-filwyr GIG Cymru.
Yn fy nghyfnod yn y Fyddin, ar ôl bod dan ofal tri DCMH ar wahân gyda chymysgedd o brofiadau cadarnhaol a negyddol, ro’n i’n amheus y gallai'r GIG yng Nghymru ddarparu'r lefel o ofal yr oeddwn yn ei ddymuno.
Yn fy mhrofiadau, rwy'n ystyried bod yr uned bwrpasol hon o GIG Cymru yn rhagorol. Roedd y Therapydd Cyn-filwyr a roddodd driniaeth i fi yn rhagorol. Fe wnes i ganfod bod ganddi agwedd gyfannol tuag at driniaeth. Hynny yw, yn ogystal â darparu therapi, cymerodd i ystyriaeth yr holl ffactorau a fyddai'n effeithio ar fy adferiad. Er enghraifft, yn ein sesiynau, archwiliodd sut y gallai fy mywyd cartref, fy amgylchedd gwaith a lles aelodau eraill o'r teulu effeithio ar fy adferiad. Awgrymodd ffyrdd o fynd i'r afael â phroblemau yn y meysydd hyn. Ar ben hynny, cafodd ddiweddariadau rheolaidd gan y TIMC ynghylch fy ymateb i feddyginiaeth. Y therapi a ddarparodd oedd Therapi Prosesu Gwybyddol (ThPG). Fe wnaeth ThPG fy helpu, trwy roi ffordd newydd i fi drin fy meddyliau trallodus a'm helpu i ddeall y digwyddiadau hyn. Fe wnaeth ThPG fy helpu i ddysgu sut newidiodd mynd trwy drawma y ffordd rydych chi'n edrych ar y byd, eich hun, ac eraill. Dysgais yn fuan fod y ffordd roeddwn i'n meddwl ac yn edrych ar bethau'n effeithio'n uniongyrchol ar y ffordd rydyn ni'n teimlo ac yn ymddwyn.
Byddwn i'n ystyried Cyn-filwyr GIG Cymru fel enghraifft wych a'r 'Safon Aur' ar y ffordd y dylid darparu gofal iechyd meddwl i gyn-filwyr. Rhaid cyflwyno'r safon hon o wasanaeth ar draws y DU. Diolch yn fawr Cyn-filwyr GIG Cymru!
Ar ôl gwasanaethu am bedair blynedd yn y Ffiwsilwyr Brenhinol, yn ddwy ar hugain oed, gadewais y Fyddin a syrthiodd y swydd roeddwn wedi ei threfnu drwodd. Ro’n i wedi prynu tŷ yn ddiweddar ar gyfer fy nheulu ifanc newydd. Dirywiais yn gyflym yn feddyliol a byddwn yn cael dwy neu dair awr o gwsg y nos ar gyfartaledd. Byddwn yn taro allan ac yn ffieiddio at fy hun oherwydd fy nghyfnod yn Affganistan. Ro’n i'n teimlo fy mod i'n haeddu mwy am yr hyn yr oeddwn wedi dioddef yn ystod fy nhaith. Yna pan oeddwn yn cael pethau neu amser braf, byddwn yn ei ddifetha’n gyflym mewn ffordd hunanddinistriol. Dechreuodd gael effaith fawr ar fy mywyd gartref ac wrth i fy merch fynd yn hŷn sylweddolais na allwn barhau i fyw fel yr oeddwn - gan y byddai'n cael effaith uniongyrchol arni hi. Cysylltais â fy meddyg a chefais feddyginiaethau amrywiol a dechreuais waethygu'n gyflym. Fy opsiwn olaf oedd therapi. Cefais therapydd oedd wedi gwasanaethu ei hun oedd yn gallu uniaethu â fi. Cefais y sgiliau a'r hyder i ddelio â fy mhroblemau mewn ffordd gadarnhaol. Bydda i bob amser yn ddiolchgar am yr amser a'r proffesiynoldeb gan fy mod yn teimlo eu bod wedi achub fy mywyd. I holl staff Cyn-filwyr Cymru, diolch i chi ac i chi mae’r diolch am fy holl lwyddiant yn y dyfodol.
Mae fy stori i ychydig yn wahanol i'r rhan fwyaf o'r rhai sy’n cael eu helpu gan Cyn-filwyr GIG Cymru. Gadawais y fyddin yn 1998 yn 55 oed. Yn ystod fy 29 mlynedd o wasanaeth, profais lawer o ddigwyddiadau a allai fod yn beryglus, ond ni wnaeth un ohonyn nhw achosi trawma parhaol i mi.
Yn 2013, rhwygais fy oesoffagws ac es i i’r ysbyty mewn ambiwlans. Yn anffodus, cefais gam-ddiagnosis fy mod wedi cael "digwyddiad ar y galon" a chefais fy rhoi mewn ystafell ochr ar ward y galon. Bedair awr ar hugain ar ôl cael fy nerbyn, darganfyddodd meddyg fod pwysau gwaed a chynnwys y stumog a oedd wedi gollwng i geudod fy mrest trwy'r rhwyg wedi gwneud i fy ysgyfaint dde ddymchwel. Ro’n i'n dioddef o sepsis difrifol ac roedd fy nghyflwr yn ddifrifol.
Cefais fy nhrosglwyddo i ysbyty arall am lawdriniaeth frys ac, yn erbyn pob disgwyliad, fe wnes i oroesi, ond treuliais dair wythnos mewn coma wedi ei ysgogi, wedi fy mharlysu ac ar beiriant cynnal bywyd wrth i'r staff frwydro i drechu'r sepsis. Treuliais bum wythnos mewn Uned Therapi Dwys a bron i dri mis yn yr ysbyty. Un o ganlyniadau coma wedi ei ysgogi yw PTSD, wnaeth gael ei waethygu gan y sepsis.
Dioddefais ddeliriwm, rhithwelediadau a hunllefau trwy gydol fy nghyfnod yn yr ysbyty, yn seiliedig yn bennaf ar fy mhrofiadau milwrol, ond wedi'u llurgunio a'u chwyddo allan o bob rheswm; ro’n nhw'n frawychus ac wedi aros gyda fi. Ond ni ddywedwyd wrtha i fod gen i PTSD am dros ddwy flynedd, a hyd yn oed wedyn ni chefais gynnig triniaeth.
Bum mlynedd yn ddiweddarach, yn bryderus am y diffyg ymwybyddiaeth parhaus o sepsis ar draws y Bwrdd Iechyd, rhoddais gyfres o sgyrsiau i staff ysbytai ar bwysigrwydd diagnosis cyflym a thriniaeth o sepsis, gan arwain at fynd i annerch cynhadledd fawr ar sepsis ym mis Tachwedd 2018.
Fodd bynnag, roedd edrych yn ôl ar fy mhrofiadau yn drawmatig, a daeth â'r PTSD i’r amlwg eto. Roedd yr hunllefau a'r atgofion drwg yn hollbresennol ac yn ddinistriol. Do’n i ddim yn gallu cysgu a chefais ddiagnosis gan fy meddyg teulu fel rhywun oedd yn dioddef iselder difrifol. Roedd fy ymddygiad yn anghyson ac yn anrhagweladwy ac yn aml nid oeddwn yn gallu cynnwys fy rhwystredigaethau. Roedd fy ngwraig yn bryderus ac yn ofnus. Ro’n i hefyd, ond ro’n i’n dal i fynnu fy mod i'n gallu delio â phethau a bod dim angen help arna i.
Yna un noson, gwelodd fy ngwraig gyfweliad ar y teledu o filwr oedd wedi cael ei drin gan Cyn-filwyr GIG Cymru ac awgrymodd fy mod i’n cysylltu â nhw. Ond dim ond ar ôl ffrwydrad arbennig o drawmatig y cyfaddefais o'r diwedd, cymaint i mi fy hun â fy ngwraig, fod angen help arna i. Ro’n i'n dal yn amharod i ffonio, gan fod gen i ofn na fyddwn i'n cael fy nerbyn gan fy mod wedi gadael y Fyddin ugain mlynedd ynghynt a bod y trawma yn ganlyniad i llurgunio fy mhrofiadau milwrol trwy’r cyfuniad o’r coma a’r sepsis wedi ei ysgogi.
Rhoddodd fy ngwraig y ffôn yn fy llaw a dweud "ffonia nawr". Fe wnes i ac roedd y fenyw nes i siarad â hi mor garedig ac amyneddgar. Trefnodd frysbennu dros y ffôn gydag un o'r therapyddion, a dilynwyd hyn gan gyfarfod wyneb yn wyneb. Dywedodd y therapydd wrtha i y byddai rhywun yn fy nhrin, ac y byddwn yn gwella. Roedd hwn yn sicrwydd mor gadarn a chadarnhaol fel ei fod wedi rhoi hyder i fi y gallwn efallai fod yn iach unwaith eto.
Ar ôl aros am gyfnod byr, dechreuais driniaeth ym mis Mehefin 2019. Ar y dechrau, do’n i ddim yn deall pam roedd fy sesiynau wythnosol gyda'r therapydd yn sgyrsiol yn bennaf, ond rhoddodd hyn amser i ni ddod i adnabod ac ymddiried yn ein gilydd.
Pan ddechreuodd y therapi go iawn, roedd e’n anodd ond roedd modd ymdopi ag e. Ni chefais fy ngwthio yn rhy bell byth ac roedd y sesiynau bob amser yn dod i ben gyda'r therapydd yn fy sicrhau fy mod wedi setlo ac yn hapus i adael. Byddai hefyd yn pwysleisio'r cynnydd yr oeddwn wedi'i wneud ac roedd yn gadarnhaol ac yn anogol bob amser. Oedd, roedd hi'n anodd ar adegau, ond ro’n i'n gallu gweld cynnydd ar ôl pob sesiwn wrth i fwy o'r hyn oedd wedi achosi trawma i fi gael sylw ac aeth y baich yn llai.
Cymerodd amser i weithio drwy'r trawma, ond yn ogystal â thrin y PTSD, rhoddodd y therapydd ffyrdd i fi ymdopi â'r boen gronig o'r niwed corfforol a wnaed i fi gan y sepsis. Mae'r dulliau hyn yn amhrisiadwy ac rwy’n eu defnyddio bob dydd yn dda.
Cefais sicrwydd y byddai'r therapi, waeth pa mor hir y byddai’n cymryd, yn parhau; sicrwydd yr oeddwn yn ddiolchgar amdano. Dywedodd y therapydd wrtha i hefyd y byddwn i'n gwybod unwaith y byddwn wedi gwella, rhywbeth yr o’n i'n ei chael hi'n anodd ei gredu ar y pryd, ond roedd yn wir. Ar ôl sesiwn, a gymerais i fod yn rhan o'r driniaeth barhaus, sylweddolais yn sydyn fy mod wedi gwella a bod pwysau’r PTSD wedi'i godi.
Dwi wedi cael cyswllt dilynol ar ôl un mis a bydda i’n cael cyswllt ar ôl chwe mis a deuddeg mis i weld a ydw i’n iawn. Yn fwyaf calonogol addawodd y therapydd os bydd angen help arna i yn y dyfodol, yr unig beth sy'n rhaid i fi ei wneud yw ffonio a bydd help yno.
Os ydych chi’n darllen hwn, byddwch chi ar wefan Cyn-filwyr GIG Cymru yn barod. Eich cam nesaf ddylai fod i ffonio a gofyn am help - byddwch yn ei gael a bydd yn newid eich bywyd. Cofiwch, nid arwydd o wendid yw gofyn am help, ond arwydd o ddewrder.