- Veterans Gateway
The Veterans' Gateway yw'r pwynt cyswllt cyntaf i gyn-filwyr sy'n ceisio cymorth. Maent yn rhoi cyn-filwyr a'u teuluoedd mewn cysylltiad â'r sefydliadau sydd yn y sefyllfa orau i helpu gyda'r wybodaeth, y cyngor a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.
Blaenoriaeth Gofal Iechyd i Gyn-filwyr
Mae Cylchlythyr Iechyd Cymru (WHC (2017) 41) yn nodi sut y dylid blaenoriaethu gofal iechyd i gyn-filwyr. Gellir dod o hyd i'r manylion llawn trwy ddewis y ddolen. Mae Adran 1.1 y ddogfen yn cynnwys y crynodeb canlynol:
Mae gan bob cyn-filwr y Lluoedd Arfog hawl i gael blaenoriaeth i ofal y GIG (gan gynnwys gofal ysbyty, sylfaenol neu gymunedol) am unrhyw gyflyrau (iechyd meddwl a chorfforol) sy’n debygol o fod yn gysylltiedig, neu’n deillio o’u cyfnod yn y gwasanaeth milwrol.
Mae’r flaenoriaeth hon dros gleifion â lefel debyg o anghenion clinigol ac ar gyfer cyflyrau sy’n gysylltiedig â gwasanaeth milwrol YN UNIG. Ni ddylai cyn-filwyr gael blaenoriaeth dros y rhai sydd ag angen clinigol uwch. Nid yw'r canllawiau hyn yn berthnasol i apwyntiadau meddyg teulu.
Dolenni i sefydliadau eraill