Ein Gwasanaeth Heddiw
Mae Cyn-filwyr GIG Cymru yn wasanaeth sy'n unigryw i Gymru, sy'n galluogi darparu triniaeth ar sail tystiolaeth ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl sy'n gysylltiedig â gwasanaeth milwrol. Mae Cyn-filwyr GIG Cymru yn cyflogi Therapyddion Cyn-filwyr, Seicolegwyr, Mentoriaid Cyfoedion, Seicolegwyr Cynorthwyol, Staff Gweinyddol a Seiciatryddion ar draws pob Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru, i ddarparu triniaeth a chymorth i wella iechyd meddwl a lles cyn-filwyr sydd â phroblem iechyd meddwl sy'n gysylltiedig â gwasanaeth milwrol. Mae'r gwasanaeth yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod cyn-filwyr yn gallu cael gafael ar yr holl wasanaethau sydd eu hangen arnynt.
Sut Ddechreuon Ni
Mae effaith andwyol posibl gwasanaeth milwrol gweithredol ar iechyd a lles wedi cael ei gydnabod ers amser maith gyda symptomau corfforol a seicolegol yn cael eu hadrodd yn gyffredin gan gyn-filwyr.
Yn 2008, cafodd y papur Gorchymyn, Ymrwymiad y Genedl: Cefnogaeth Drawslywodraethol i'n Lluoedd Arfog, eu Teuluoedd a'u Cyn-filwyr ei gyflwyno i’r Senedd. Mae'n datgan na ddylai personél milwrol, milwyr wrth gefn, cyn-filwyr a'u teuluoedd fod dan anfantais ac y bydd hyn weithiau'n galw am raddau o driniaeth arbennig.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i wella cefnogaeth a thriniaeth i gyn-filwyr. Yn 2009, arweiniodd yr ymrwymiad hwn, ynghyd â llwyddiant cychwynnol Prosiect Peilot Cymru 2008, at ffurfio Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cenedlaethol i ddatblygu manyleb gwasanaeth. Cyfarfu'r Grŵp bum gwaith rhwng 16 Gorffennaf 2009 a 3 Rhagfyr 2009. Cafodd manyleb ei llywio gan dystiolaeth a gafwyd o'r ffynonellau canlynol:
a. . Llenyddiaeth bresennol ynghylch anghenion cyn-filwyr a darparu gwasanaethau ar eu cyfer.
b. Trafodaethau gyda chyn-filwyr, eu gofalwyr ac unigolion sy'n ymwneud â gofal seicogymdeithasol cyn-filwyr.
c. Ymchwil seicogymdeithasol barhaus i anghenion cyn-filwyr sy'n byw yng Nghymru.
d. Profiadau chwe Phrosiect Peilot y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Cymunedol Cyn-filwyr ar draws y Deyrnas Unedig, gan gyfeirio'n benodol at y Prosiect Peilot yng Nghymru a oedd yn ymdrin ag Ymddiriedolaethau GIG Caerdydd a'r Fro a Chwm Taf (BILl o 1 Hydref 2010).
Gweler y Fanyleb Gwasanaethau YMA
Ym mis Ebrill 2010, ffurfiwyd 'Gwasanaeth Iechyd Meddwl Cyn-filwyr Cymru Gyfan'. Ers hynny, mae Cyn-filwyr GIG Cymru wedi sefydlu ei enw da am arbenigedd iechyd meddwl milwrol ledled Cymru, y DU ac yn rhyngwladol, fel y 'pwynt cyswllt cyntaf' ar gyfer cyn-filwyr, gweithwyr iechyd proffesiynol ac elusennau'r trydydd sector sy'n gweithio gyda chyn-filwyr milwrol sy'n byw yng Nghymru.